pentref yng Ngwynedd From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref gerllaw Yr Eifl ar arfordir gogleddol Llŷn yng Ngwynedd yw Trefor ( ynganiad ) . Saif ychydig oddi ar y briffordd A499 o Gaernarfon i Bwllheli, rhwng Clynnog Fawr a Llanaelhaearn, lle maer'r briffordd yn gadael yr arfordir ac yn troi tua'r de. Mae'n rhan o gymuned Llanaelhaearn. Mae yno harbwr bychan, pier a thraeth. Llifa Afon Tal i'r môr yn y pentref.
Math | pentref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Llanaelhaearn |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.993°N 4.42°W |
Cod OS | SH371467 |
Cod post | LL54 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Liz Saville Roberts (Plaid Cymru) |
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)[1] ac yn Senedd y DU gan Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[2]
Pentref cymharol newydd yw Trefor. Yn 1839 nid oedd dim yno ond ffermydd a hanner dwsin o dai chwarelwyr. Tyfodd y pentref pan ddatblygodd y chwarel ithfaen ar Yr Eifl, a agorwyd yn 1850.
'Y Gwaith Mawr' oedd yr enw a roddwyd ar y chwarel newydd; yn ôl y sôn dyma chwarel sets fwyaf yn y byd, am gyfnod. Er ei fod ar lan y môr, nid "Tre-fôr" yw tarddiad yr enw. Enw gwreiddiol yr ardal yma oedd yr Hendre Fawr, neu'n syml,yr Hendre.[3] Ceir y cofnod cyntaf o'r enw hwn yn 1552.
Ail-enwyd y pentref yn 1850 ar ôl Trevor Jones, rheolwr y chwarel.[4] Gweithwyr yn y chwarel a'u teuluoedd oedd y rhan fwyaf o'r boblogaeth ac i blant y gweithwyr y codwyd yr ysgol gyntaf. Yn 1865 agorwyd tramffordd Chwarel yr Eifl i ddod a'r ithfaen o'r chwarel i'r harbwr. O'r cychwyn cyntaf bron roedd 'na berthynas glos rhwng gweithwyr chwarel Trefor a chwarel ithfaen Penmaenmawr.
Mae Seindorf Arian Trefor, a sefydlwyd yn 1863, yn un o'r hynaf yng Ngwynedd.
Ffilmiwyd y gyfres deledu Minafon yma yn yr 1980au a dogfennwyd bywyd y pentre yn y gyfres Trefor Only a ddangoswyd ar S4C yn 2005.[5]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.