Botwnnog

pentref a chymuned yng Ngwynedd From Wikipedia, the free encyclopedia

Botwnnog

Pentref a chymuned yng Ngwynedd, Cymru, yw Botwnnog[1][2] ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Saif ar Ben Llŷn ar ffordd y B4413, rhwng Mynytho a Sarn Mellteyrn, i'r gogledd-orllewin o Abersoch; Cyfeirnod OS: SH 26250 31201.

Ffeithiau sydyn Math, Poblogaeth ...
Botwnnog
Thumb
Mathpentref, cymuned 
Poblogaeth996, 980 
Daearyddiaeth
SirGwynedd 
Gwlad Cymru
Arwynebedd3,426.51 ha 
Cyfesurynnau52.84°N 4.58°W 
Cod SYGW04000052 
Cod OSSH260311 
Cod postLL53 
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruMabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)
AS/au y DULiz Saville Roberts (Plaid Cymru)
Thumb
Cau

Mae yma ysgol uwchradd, Ysgol Botwnnog. Cysegrwyd yr eglwys i Sant Beuno. Adeiladwyd yr eglwys bresennol yn 1887, ond credir fod eglwys wedi bod yna ers y 7g. Daw aelodau'r band Cowbois Rhos Botwnnog o'r pentref.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)[3] ac yn Senedd y DU gan Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[4]

Cyfrifiad 2011

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[5][6][7]

Rhagor o wybodaeth Cyfrifiad 2011 ...
Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Botwnnog (pob oed) (996)
 
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Botwnnog) (733)
 
75.9%
:Y ganran drwy Gymru
 
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Botwnnog) (728)
 
73.1%
:Y ganran drwy Gymru
 
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Botwnnog) (136)
 
33.5%
:Y ganran drwy Gymru
 
67.1%
Cau

Cyfeiriadau

Dolen allanol

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.