Remove ads
tref a chymuned yng Ngwynedd From Wikipedia, the free encyclopedia
Tref fechan a chymuned yn ardal Meirionnydd, Gwynedd, yw'r Bala. Cyfeirnod OS: SH 92515 36708. Does dim ond un stryd fawr yn y dref. Mae'r dref ar yr A494, rhwng Dolgellau (18 milltir i'r de-orllewin) a Llangollen (22 milltir i'r dwyrain). Cyn ad-drefnu llywodraeth leol roedd hi yn yr hen Sir Feirionnydd. Mae ganddi boblogaeth o 1,999 (2021),[1] 1,974 (2011),[2] 1,993 (2021)[3].
Math | tref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 1,999, 1,974, 1,993 |
Daearyddiaeth | |
Ardal warchodol | Parc Cenedlaethol Eryri |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 241.94 ha |
Yn ffinio gyda | Llanuwchllyn |
Cyfesurynnau | 52.911°N 3.596°W |
Cod SYG | W04000045 |
Cod OS | SH925359 |
Cod post | LL23 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Liz Saville Roberts (Plaid Cymru) |
Llyn naturiol mwyaf Cymru ydyw Llyn Tegid sydd ar gyrion y dref. Mae Afon Tryweryn yn llifo heibio i'r dwyrain ac yn ymuno ag Afon Dyfrdwy sy'n llifo drwy Lyn Tegid ac yn dod allan ar ochr ddeheuol y Bala.
Cynhaliyd gŵyl gerddoriaeth boblogaidd, "Wa Bala" ar gyrion y dref ym Mis Medi 2017.
Gair cyffredin Cymraeg yn golygu adwy neu fwlch oedd "bala" gynt,[4] a ddaeth i olygu'r fan lle bydd afon yn llifo allan o lyn.[5] Yn yr achos hon cyfeiria enw'r dref yn benodol at y fan lle rhed Afon Dyfrdwy o Lyn Tegid. Ymddengys yr elfen "bala" mewn enwau lleoedd eraill ar draws Cymru megis Baladeulyn. Yn unol ag enghreifftiau eraill o enw cyffredin a arferir yn enw lle, cafodd y fannod ei gosod o'i flaen i'w wneud yn benodol.[4]
Ceir dros ddeg lle drwy'r byd sydd wedi eu galw ar ôl y Bala, gan gynnwys: Bala Cynwyd ym Mhennsylvania a Bala, Ontario.
Ar un adeg roedd y Bala yn ganolfan bwysig i'r diwydiant gwlân ond dirwynodd i ben yn y 19g. Yn y sgwâr yng nghanol y dref saif cerflun er cof am Tom Ellis (1859-1899), AS Meirionnydd ar ddiwedd y 19g, a aned yng Nghefnddwysarn nepell o'r Bala. Yno hefyd mae plac yn coffhau'r Parch. Thomas Charles o'r Bala, Methodist blaenllaw ac un o selogion y Gymdeithas Feiblau a symbylwyd gan daith Mary Jones yn droednoeth i'r Bala yr holl ffordd o Llanfihangel-y-Pennant yn 1800. Ym mhen gogleddol y dref gwelir y Green gyda cherrig yr Orsedd o Eisteddfod Genedlaethol 1967. Ger llaw y mae Tomen y Bala, sy'n fwnt a beli, Normanaidd efallai. O'r Bala daeth nifer o'r ymfudwyr a aethant i'r Wladfa ym Mhatagonia yn 1865.
Hinsawdd Bala 163m, 1971-2000 | |||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Mis | Ion | Chw | Maw | Ebr | Mai | Meh | Gor | Aws | Med | Hyd | Tac | Rha | Blwyddyn |
Tymheredd uchaf (cyfartalog) °C (°F) | 6.7 (44.1) |
6.8 (44.2) |
8.7 (47.7) |
11.1 (52.0) |
14.6 (58.3) |
16.8 (62.2) |
19.1 (66.4) |
18.8 (65.8) |
16.2 (61.2) |
12.9 (55.2) |
9.4 (48.9) |
7.5 (45.5) |
12.38 (54.29) |
Tymheredd isaf (cyfartalog) °C (°F) | 0.9 (33.6) |
0.8 (33.4) |
2.1 (35.8) |
2.8 (37.0) |
5.2 (41.4) |
8.0 (46.4) |
10.2 (50.4) |
9.8 (49.6) |
8.0 (46.4) |
5.6 (42.1) |
3.0 (37.4) |
1.6 (34.9) |
4.83 (40.70) |
Source: YR.NO[6] |
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[7][8][9]
Cyfrifiad 2011 | ||||
---|---|---|---|---|
Poblogaeth cymuned Y Bala, Gwynedd (pob oed) (1,974) | 100% | |||
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Y Bala, Gwynedd) (1,482) | 78.5% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 19% | |||
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Y Bala, Gwynedd) (1515) | 76.7% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 73% | |||
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Y Bala, Gwynedd) (380) | 40.6% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 67.1% |
Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yn y Bala ym 1967, 1997 a 2009. Am wybodaeth bellach gweler:
Mae pentref Bala yn nhalaith Ontario, Canada, yn efeilldref swyddogol i'r Bala.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.