Llanfihangel-y-Pennant (Abergynolwyn)

pentref a chymuned ym Meirionnydd, Gwynedd From Wikipedia, the free encyclopedia

Llanfihangel-y-Pennant (Abergynolwyn)

Pentref bychan a chymuned yng Ngwynedd, Cymru, yw Llanfihangel-y-Pennant[1][2] ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Saif yn ne'r sir, heb fod ymhell o Abergynolwyn, rhwng Afon Dysynni ac Afon Cadair, ger llethrau deheuol Cadair Idris. Mae Castell y Bere, un o gadarnleoedd tywysogion Gwynedd yn y 13g, fymryn tu allan i'r pentref.

Ffeithiau sydyn Math, Poblogaeth ...
Llanfihangel-y-Pennant
Thumb
Mathpentref, cymuned 
Poblogaeth339 
Daearyddiaeth
SirGwynedd 
Gwlad Cymru
Arwynebedd7,749.89 ha 
Cyfesurynnau52.6613°N 3.9654°W 
Cod SYGW04000078 
Cod OSSH671088 
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruMabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)
AS/au y DULiz Saville Roberts (Plaid Cymru)
Thumb
Cau
Am y pentref arall yng Ngwynedd o'r un enw, gweler Llanfihangel-y-Pennant (Cwm Pennant).

Ganed y geiriadurwr a golygydd William Owen Pughe yn y plwyf ar 7 Awst 1759. Rhodd yw prif ffenestr yr eglwys leol (gweler isod) yn 1869 i gofio am Edward Owen Pughe.

Yn 1800, cerddodd Mari Jones (neu Mary Jones) 26 milltir o Lanfihangel-y-Pennant i'r Bala i brynu Beibl Cymraeg gan y Parchedig Thomas Charles. Ysbrydolodd y digwyddiad yma Thomas Charles i sefydlu y Gymdeithas Feiblaidd Frytanaidd a Thramor.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Siân Gwenllian (Plaid Cymru)[3] ac yn Senedd y DU gan Hywel Williams (Plaid Cymru).[4]

Eglwys Sant Mihangel

Prif: Eglwys Sant Mihangel
Thumb

Mae siâp ofal y fynwent yn dyst fod yma eglwys llawer hŷn na'r adeilad a welir heddiw, a godwyd yng nghanrif 12. Fe'i cofrestrwyd gan Cadw ar 17 Mehefin 1966 yn Radd II*, a hynny oherwydd ei hoed a nodweddion o'r Oesoedd Canol, fel y fedyddfaen, y nenfwd a'r rhan fwyaf o'i muriau. Yng nghanrif 15 codwyd estyniad ar ochr ogleddol yr eglwys: capel bychan; yno, yn 2016 roedd arddangosfa o ddogfennau'n ymwneud â Mari Jones. Ceir darlun o 1869 o Fihangel a Gabriel o bobty Crist ar y brif ffenestr y tu ôl i'r allor.

Credir fod y fedyddfaen yn dyddio o ganrif 12 ac iddo ddod o Gastell y Bere; y tu allan i'r brif ffenestr, ceir bedd, gyda'r union yr un cerrig crwn, tebyg i golofnau.

Cyfrifiad 2011

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[5][6][7][8]

Rhagor o wybodaeth Cyfrifiad 2011 ...
Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llanfihangel-y-Pennant (Abergynolwyn) (pob oed) (339)
 
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llanfihangel-y-Pennant (Abergynolwyn)) (174)
 
51.5%
:Y ganran drwy Gymru
 
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llanfihangel-y-Pennant (Abergynolwyn)) (162)
 
47.8%
:Y ganran drwy Gymru
 
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Llanfihangel-y-Pennant (Abergynolwyn)) (72)
 
41.1%
:Y ganran drwy Gymru
 
67.1%
Cau

Cyfeiriadau

Dolen allanol

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.