From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref bychan a chymuned yng Ngwynedd, Cymru, yw Dolbenmaen[1] ( ynganiad ). Arferai fod yn blwyf, rhan o hen gwmwd Eifionydd, Teyrnas Gwynedd. Ceir hen domen, neu fwnt yn y pentref, gerllaw Eglwys y Santes Fair, Dolbenmaen sy'n dyddio i'r 15g.
Math | cymuned, pentref |
---|---|
Poblogaeth | 1,267 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.968°N 4.228°W |
Cod SYG | W04000060 |
Cod OS | SH506430 |
Cod post | LL51 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Liz Saville Roberts (Plaid Cymru) |
Statws treftadaeth | Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)[2] ac yn Senedd y DU gan Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[3]
Yn yr Oesoedd Canol codwyd castell yn Nolbenmaen ger y rhyd ar Afon Dwyfor. Ychydig a wyddys am ei hanes. Mae'n bosibl iddo gael ei godi yn wreiddiol gan y Normaniaid, yn y cyfnod byr pan feddiannwyd rhannau o Wynedd gan yr iarll Hugh d'Avranches ('Huw Flaidd') o Gaer ar ddiwedd yr 11g a dechrau'r ganrif ganlynol, neu gan dywysogion Gwynedd. Erbyn yr 12g roedd yn ganolfan maerdref cwmwd Eifionydd ac yn un o lysoedd brenhinol tywysogion Gwynedd. Yn 1230 symudodd Llywelyn Fawr y llys lleol oddi yno i gastell Cricieth. Dim ond y mwnt sydd i'w weld ar y safle heddiw, ger eglwys Dolbenmaen.[4]
Codwyd plasty Ystumcegid yn yr Oesoedd Canol Diweddar. Saif ar fryncyn ger Dolbenmaen. Mae'n ffermdy heddiw ond yn y gorffennol bu gan deulu Ystumcegid ran amlwg ym mywyd y fro a chroesawid sawl bardd ar eu haelwyd.
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[5][6][7]
Cyfrifiad 2011 | ||||
---|---|---|---|---|
Poblogaeth cymuned Dolbenmaen (pob oed) (1,343) | 100% | |||
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Dolbenmaen) (883) | 67.8% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 19% | |||
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Dolbenmaen) (876) | 65.2% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 73% | |||
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Dolbenmaen) (209) | 37% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 67.1% |
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.