castell yng Ngwynedd From Wikipedia, the free encyclopedia
Castell mwnt yw Mwnt Dolbenmaen, a leolir ar gwr pentref Dolbenmaen, Gwynedd, ger y rhyd ar Afon Dwyfor.
Gwelir y mwnt y tu ôl i'r cwt gwyrdd. | |
Math | castell mwnt a beili |
---|---|
Cysylltir gyda | Cylchdaith llys Tywysogion Gwynedd |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.96415°N 4.22498°W |
Cod OS | SH5066043071 |
Statws treftadaeth | heneb gofrestredig, Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Dynodwr Cadw | CN063 |
Codwyd y castell yn yr Oesoedd Canol. Ychydig a wyddys am ei hanes. Mae'n bosibl iddo gael ei godi yn wreiddiol gan y Normaniaid, yn y cyfnod byr pan feddianwyd rhannau o Wynedd gan yr iarll Hugh d'Avranches ('Huw Flaidd') o Gaer ar ddiwedd yr 11g a dechrau'r ganrif ganlynol. Posiblrwydd arall yw iddo gael ei godi gan dywysogion Gwynedd.
Erbyn y 12g roedd Dolbenmaen yn ganolfan maerdref cwmwd Eifionydd ac yn un o lysoedd brenhinol tywysogion Gwynedd. Yn 1230 symudodd Llywelyn Fawr y llys lleol oddi yno i gastell Cricieth. Dim ond y mwnt sydd i'w weld ar y safle heddiw, ger eglwys Dolbenmaen.[1]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.