pentref yng Ngwynedd From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref yng nghymuned Arthog, Gwynedd, Cymru, yw Fairbourne[1][2] ( ynganiad ). Yn anarferol iawn i bentrefi Gwynedd, nid oes enw Cymraeg arno. Defnyddir Friog weithiau fel enw Cymraeg Fairbourne, ond mewn gwirionedd mae'r Friog yn bentref ar wahân. Gelwid yr ardal yn "Morfa Henddol" cyn adeiladu'r pentref, a chredir fod yr enw "Rowen" wedi ei ddefnyddio am y pentref ar un adeg. Ynys Faig oedd yr enw gwreiddiol ar y ran o'r pentref lle ceir y Fairbourne Hotel bellach.[3][4]
Math | pentref, cyrchfan lan môr |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Arthog |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.6969°N 4.0524°W |
Cod OS | SH614130 |
Cod post | LL38 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Liz Saville Roberts (Plaid Cymru) |
Saif Fairbourne ar bwys priffordd yr A493 rhwng Dolgellau a Thywyn. Mae ar ochr ddeheuol aber Afon Mawddach, gyferbyn a thref Abermaw. Sefydlwyd Fairbourne gan Arthur McDougall, o'r teulu oedd yn cynhyrchu blawd McDougall's, fel pentref gwyliau glan-y-môr.
Ceir olion yr Ail Ryfel Byd yn y tywynni traeth, amddiffyniadau i rwystro tanciau, a elwir "Dannedd y Ddraig" yn lleol.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)[5] ac yn Senedd y DU gan Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[6]
Mae gan y pentref orsaf ar Reilffordd Glannau Cymru ac mae Rheilffordd y Friog yn arwain i'r de i gyfeiriad Tywyn. Gellir cael fferi dros yr afon i'r Bermo (Abermaw).
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.