pentref yng Ngwynedd From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref yng nghymuned Llandygái, Gwynedd, Cymru, yw Mynydd Llandygái[1] ( ynganiad ) (hefyd Mynydd Llandegai).[2] Fe'i lleolir ger ffin Parc Cenedlaethol Eryri, rhwng Moelyci a'r Glyderau. "Gwaun Gynfi" yw'r enw ar y gweundir a adeiladwyd y pentref arno, ac ar y Waun sy'n weddill i'r gorllewin.
Math | pentref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.1691°N 4.0958°W |
Cod OS | SH603655 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Siân Gwenllian (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Claire Hughes (Llafur) |
Tyfodd y pentref tra roedd Chwarel y Penrhyn yn ei hanterth, ac mae presenoldeb y chwarel ac argae Gorsaf bŵer Dinorwig yn gwrthgyferbyn â thirlyn naturiol yr ardal o hyd.
Ffurfir calon y pentref gan ddwy stryd gyfochrog, Tan y Bwlch a Llwybr Main, a adeiladwyd ar gyfer chwarelwyr yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae llain hir o dir yn gysylltiedig â phob tŷ ar y ddwy stryd.
Mae gwasanaeth bws o'r pentref i Fethesda a Bangor, y trefi agosaf. Pentref cyfagos eraill yw Tregarth (i'r gogledd-ddwyrain) a Dinorwig (yr ochr draw i'r Waun a'r Bwlch i'r gorllewin). Lleolir yr ysgol gynradd lleol, Ysgol Bodfeurig, yn Sling rhwng Mynydd Llandygái a Thregarth.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Siân Gwenllian (Plaid Cymru)[3] ac yn Senedd y DU gan Claire Hughes (Llafur).[4]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.