pentref yng Ngwynedd From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentrefan a chymuned yng Ngwynedd yw Llanfrothen[1][2] ( ynganiad ). Saif ychydig i'r gogledd o dref Penrhyndeudraeth. Saif lle mae'r ffordd B4410 yn croesi'r briffordd A4085.
Math | cymuned, pentrefan |
---|---|
Poblogaeth | 437, 440 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 3,367.62 ha |
Cyfesurynnau | 53°N 4°W |
Cod SYG | W04000079 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Liz Saville Roberts (Plaid Cymru) |
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)[3] ac yn Senedd y DU gan Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[4]
Gelwir y rhan hynaf o'r pentref yn Garreg, Llanfrothen, ac mae rhannau eraill o'r pentref ar wasgar i'r dwyrain a'r de-ddwyrain i Garreg, ar y ffordd fechan sy'n arwain i bentref Rhyd. Mae yno dafarn adnabyddus, y "Brondanw Arms" ("Y Ring" i bobl leol) ac ysgol gynradd. Ar y ffordd sy'n arwain i gyfeiriad Croesor mae Plas Brondanw, gynt yn gatref i'r pensaer Clough Williams-Ellis.
Gwasanaethodd yr emynydd Richard Jones (Cymro Gwyllt) (1772-1833) fel gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd yn Llanfrothen, lle treuliodd y rhan helaeth o'i oes (roedd yn frodor o blwyf Llanystumdwy, Eifionydd).
Cysegrwyd yr eglwys i Sant Brothen, a oedd yn un o feibion Helig ap Glannog yn ôl traddodiad. Dywedir y claddwyd y sant yno.[5] Ceir Ffynnon Frothen (neu'r Hen Ffynnon) ar bwys yr eglwys. Ceir nifer o nodweddion pensaernïol yn yr eglwys yn cynnwys ffenestr o'r 13g. Yn 1888 bu helynt enwog ynghylch hawl i gladdu ym mynwent yr eglwys, a'r achos hwn a ddaeth â David Lloyd George i amlygrwydd am y tro cyntaf. Mae bedd Mary Jones o Finffordd, a lofruddiwyd gan Thomas Edwards (Yr Hwntw Mawr) yma.
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[6][7][8]
Cyfrifiad 2011 | ||||
---|---|---|---|---|
Poblogaeth cymuned Llanfrothen (pob oed) (437) | 100% | |||
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llanfrothen) (296) | 70.1% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 19% | |||
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llanfrothen) (270) | 61.8% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 73% | |||
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Llanfrothen) (72) | 35.3% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 67.1% |
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.