pentref yng Ngwynedd From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Dinas yn bentrefan yng nghymuned Llanwnda, Gwynedd. Mae'n sefyll fymryn oddi ar y ffordd A487 ar y lôn gefn sydd yn rhedeg i'r gorllewin i gyfeiriad Felinwnda a Saron. Mae tua tair milltir i Gaernarfon.
Yn ogystal ag eglwys plwyf Llanwnda a dwy ystad fechan o dai a godwyd yng nghanol y 20g, ac ychydig o rai hŷn, yr oedd yma neuadd yn perthyn i eglwys blwyf Llanwnda, nes iddi gau a chanolfan fodern agor yn Felinwnda tua hanner milltir i lawr y lôn i gyfeiriad y môr.[1]
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Siân Gwenllian (Plaid Cymru)[2] ac yn Senedd y DU gan Hywel Williams (Plaid Cymru).[3]
Prif nodweddion Dinas yw pencadlys Dŵr Cymru yn y Gogledd Orllewin; a phencadlys Rheilffordd Eryri. Yma mae sied injans y lein, sied fawr ar gyfer coetsis a gweithdai cynnal a chadw'r lein. Mae hen adeiladau Rheilffyrdd Cul Gogledd Cymru yn dal i sefyll, ond mae platfformau y lein fawr, oedd â caban signalau, lŵp a gorsaf yma, wedi diflannu.[4]
Cafodd y dreflan ei henwi yn ôl y plasty cyagos, sef Plas Dinas, oedd yn gartref i deulu Anthony Armstrong-Jones am ganrif a mwy (ac sy'n dal yn eu meddiant) er i'r adeilad bellach gael ei ddefnyddio fel bwyty a gwesty egsliwsif.[5]
Un o drigolion mwyaf amlwg oedd yr awdur, gweinidog ac ysgolfeistr, y Parch. Gareth Maelor Jones. Cafodd y dramodydd a'r awdur Aled Jones Williams ei ddwyn i fyny yn y Ficerdy yma.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.