tref a chymuned yng Ngwynedd From Wikipedia, the free encyclopedia
Tref hanesyddol a chymuned yng Ngwynedd, Cymru, yw Cricieth (ffurf amgen, ansafonol: Criccieth).[1][2] Saif ar arfordir deheuol Eifionydd.
Math | tref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 1,736 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.917°N 4.2363°W |
Cod SYG | W04000059 |
Cod OS | SH505385 |
Cod post | LL52 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Liz Saville Roberts (Plaid Cymru) |
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)[3] ac yn Senedd y DU gan Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[4]
Saif amddiffynfa trawiadol Castell Cricieth fel cawr uwch y dref. Saif y dref 8km (5mill) i'r gorllewin o Borthmadog, 14 km (9mill) i'r dwyrain o Bwllheli a 27 km (17mill) i'r de o Gaernarfon. Roedd ganddi boblogaeth o tua 1,826 yn 2001.[5]
Enillodd y dref wobr Cymru yn ei Blodau yn 1999. Cynhelir cystadleuaeth Y Dyn Cryfa (am godi carreg fawr o flaen y Neuadd Goffa) bob blwyddyn ym mis Mehefin.[6]
Crug y caethion (crug + caith) yw ystyr enw Cricieth yn ôl arbenigwyr enwau lleoedd; cyfeiria'r enw at garchar y castell yn ôl pob tebyg.[2] "Kruceith" yw'r sillafiad cynharaf ar gofnod.[7] Yn y 14g, mewn llythyr at Hywel y Fwyall, Ceidwad y Castell, "Cruciaith" oedd yr enw a ddefnyddiwyd.[8]
Gwyddom fod yma bobl yn byw'n yr ardal yn yr Oes Efydd cynnar, fel y dengys siambr gladdu Cerrig Cae Dyni i'r dwyrain o'r dref. Ceir olion cwpannau Celtaidd, sef celfyddyd gynnar ar y saith carreg, sy'n beth hynod o anghyffredin.[9] Ganganorum Promontorium (Penrhyn y Gangani) oedd enw Ptolemi ar yr ardal; llwyth Celtaidd o Iwerddon oedd y Gangani.
Codwyd y castell Cymreig hwn yn 1230 gan Lywelyn ab Iorwerth a reolodd yr ardal ers 1202; ond mae'r cofnodion ysgrifenedig yn nodi mai yn 1239 y'i codwyd, pan symudwyd pencadlys Eifionydd yma o Ddolbenmaen.
Tyfodd tref fechan wrth droed y Castell yn yr Oesoedd Canol.
Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru yng Nghricieth ym 1975, ble'r enillodd Gerallt Lloyd Owen y gadair am ei awdl "Yr Afon".
Hinsawdd Cricieth | |||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Mis | Ion | Chw | Maw | Ebr | Mai | Meh | Gor | Aws | Med | Hyd | Tac | Rha | Blwyddyn |
Tymheredd uchaf (cyfartalog) °C (°F) | 8.0 (46.4) |
8.0 (46.4) |
9.0 (48.2) |
11.0 (51.8) |
14.0 (57.2) |
17.0 (62.6) |
18.0 (64.4) |
19.0 (66.2) |
17.0 (62.6) |
14.0 (57.2) |
11.0 (51.8) |
9.0 (48.2) |
12.92 (55.25) |
Tymheredd isaf (cyfartalog) °C (°F) | 3.0 (37.4) |
3.0 (37.4) |
4.0 (39.2) |
5.0 (41.0) |
8.0 (46.4) |
10.0 (50.0) |
12.0 (53.6) |
12.0 (53.6) |
11.0 (51.8) |
9.0 (48.2) |
6.0 (42.8) |
4.0 (39.2) |
7.25 (45.05) |
dyddodiad mm (modfeddi) | 83.8 (3.299) |
55.9 (2.201) |
66.0 (2.598) |
53.3 (2.098) |
48.3 (1.902) |
53.3 (2.098) |
53.3 (2.098) |
73.7 (2.902) |
73.7 (2.902) |
91.4 (3.598) |
99.1 (3.902) |
94.0 (3.701) |
845.8 (33.299) |
Source: [10] |
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[11][12][13]
Cyfrifiad 2011 | ||||
---|---|---|---|---|
Poblogaeth cymuned Cricieth (pob oed) (1,753) | 100% | |||
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Cricieth) (1,101) | 64.2% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 19% | |||
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Cricieth) (1085) | 61.9% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 73% | |||
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Cricieth) (372) | 46.4% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 67.1% |
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.