pentref yng Ngwynedd From Wikipedia, the free encyclopedia
Plwyf a phentrefan gwasgaredig yn ardal Ardudwy, de Gwynedd, yw Llandecwyn ( ynganiad ) (cyfeiriad grid SH632375). Yn ôl traddodiad fe'i cysylltir â Sant Tecwyn (fl. 6g?), a sefydlodd llan yno. Mae'n rhan o gymuned Talsarnau
Math | pentref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.9182°N 4.0351°W |
Cod OS | SH631375 |
Cod post | LL47 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Liz Saville Roberts (Plaid Cymru) |
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)[1] ac yn Senedd y DU gan Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[2]
Gorwedd y plwyf yng ngogledd-orllewin Ardudwy ar lan ddeheuol Afon Dwyryd. Mae'n ymestyn o'r arfordir i fyny i fryniau gogleddol y Rhinogau. Ceir Llyn Tecwyn Uchaf a Llyn Llennyrch yng ngogledd y plwyf.
Yn yr Oesoedd Canol bu'n rhan o gwmwd Ardudwy Uwch Artro. Prin bod Llandecwyn yn "bentref" o gwbl, ond yn hytrach mae'n gymuned o dai a ffermydd gwasgaredig o gwmpas yr eglwys. Adeilad newydd a godwyd yn 1879 yw'r eglwys bresennol, ond mae'n sefyll ar safle egwlys ganoloesol. Erys carreg o tua'r 11g yno, yn coffa'r sant a ddaeth yma, yn ôl traddodiad, yng ngosgordd Cadfan. Ceir Plas Llandecwyn gerllaw.[3]
Brodor o Landecwyn oedd y pregethwr a llenor D. Tecwyn Evans (David Evans). Yma hefyd y ganed J. H. Jones, cyn-olygydd Y Brython.[3]
Ceir gorsaf Llandecwyn ar Reilffordd Arfordir Cymru.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.