pentref yng Ngwynedd From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref yng nghymuned Clynnog, Gwynedd, Cymru, ydy Pant Glas[1] ( ynganiad ) neu Pant-glas neu Pantglas. Saif ar yr hen A487 yn Nyffryn Nantlle. Llifa Afon Dwyfach heibio i'r pentref.
Math | pentrefan |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53°N 4.278°W |
Cod OS | SH471473 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Liz Saville Roberts (Plaid Cymru) |
Ar un adeg roedd gorsaf reilffordd yma, ar y lein o Gaernarfon i Afon-wen; fe'i chaewyd ym mis Rhagfyr 1964.
Nes adeiladu ffordd osgoi Llanllyfni, roedd llawer iawn o draffic yn teithio tryw'r pentref ac roedd cyfymder ucha o 50 milltir yr awr. Gostyngwyd hyn i 40 milltir yr awr yn 2005 gan wneud y pentref yn lle llawer mwy pleserus i fyw.[2]
Mae llwybr beic Lôn Eifion, rhan o Lôn Las Cymru, hefyd yn pasio drwy'r pentref, yn dilyn llwybr hen reilffordd Caernarfon i Afon Wen. Mae'r llwybr yn rhan o rwydwaith cenedlaethol Sustrans erbyn hyn.
Arferai rhai o blant yr ardal pentref fynychu Ysgol Ynys-yr-arch ym Mwlch derwin nes i honno gau,; erbyn hyn, mynycha rhai o blant y pentref Ysgol Gynradd Garndolbenmaen gerllaw cyn symyd ymlaen i ysgolion uwchradd Eifionydd neu Ddyffryn Nantlle.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.