Y Bont-ddu
pentref yng Ngwynedd From Wikipedia, the free encyclopedia
Treflan yng nghymuned Llanelltud, Gwynedd, Cymru, yw Y Bont-ddu[1] neu Bontddu[2] ( ynganiad ). Saif yn ardal Ardudwy yn ne'r sir, ar lan ogleddol afon Mawddach tua 3 milltir i gyfeiriad y gorllewin o dref Dolgellau. Mae briffordd yr A496 yn rhedeg trwy'r Bont-ddu, a enwir ar ôl pont sy'n dwyn y ffordd honno dros afon Cwm Llechen. Mae'r ffordd yn cysylltu Bontddu ag Abermaw i gyfeiriad y gorllewin a Llanelltud, ger Dolgellau, i'r cyfeiriad arall.
![]() | |
Math | pentref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.7514°N 3.9676°W |
Cod OS | SH673189 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Liz Saville Roberts (Plaid Cymru) |
![]() | |
Mae lôn gul yn rhedeg i fyny i gyfeiriad bryniau'r Rhinogydd i'r gogledd o'r pentref.


Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)[3] ac yn Senedd y DU gan Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[4]
Enwogion
- William Jones (Bryntirion) (1757-1830) sefydlydd Dolgellau fel tref argraffu
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.