pentref a chymuned yng Ngwynedd From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref bychan, plwyf eglwysig a chymuned yng Ngwynedd yw Llanelltud ( ynganiad ) [1] (hefyd Llanelltyd). Saif ger y briffordd A470, ychydig i'r gogledd o dref Dolgellau ac ar lan ogleddol Afon Mawddach. Ceir gweddillion Abaty Cymer ychydig i'r dwyrain, abaty Sistersaidd a sefydlwyd yn 1199.
Math | cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 469 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.7576°N 3.9051°W |
Cod SYG | W04000075 |
Cod OS | SH714194 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Liz Saville Roberts (Plaid Cymru) |
Mae'r eglwys bresennol, a gysegrir i Sant Illtud, yn adeilad diweddar, yn dyddio o 1900, ond mae'r fynwent gron yn awgrymu fod y safle yn un hynafol.
Heblaw pentrefi Llanelltud a'r Bont-ddu, mae'r gymuned yn cynnwys copa Diffwys, y copa uchaf yn y Rhinogau, a Mwynfeydd aur Clogau. Roedd poblogaeth y gymuned yn 495 yn 2001. Yma hefyd roedd Hengwrt, plasdy Robert Vaughan (c.1592 - 1667), y casglwr llawysgrifau.
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[2][3][4]
Cyfrifiad 2011 | ||||
---|---|---|---|---|
Poblogaeth cymuned Llanelltud (pob oed) (514) | 100% | |||
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llanelltud) (287) | 57.4% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 19% | |||
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llanelltud) (292) | 56.8% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 73% | |||
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Llanelltud) (89) | 38% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 67.1% |
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.