yng Nghymru From Wikipedia, the free encyclopedia
Mwynfeydd aur Clogau oedd brenin mwynfeydd aur ardal Dolgellau, Gwynedd am flynyddoedd. Mae'r ardal yn agos i bentref Bontddu, rhwng Dolgellau a'r Bermo. Yn wir, dyma ffynhonnell aur mwyaf gwledydd Prydain am gryn amser.
Math | gwaith aur |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.7618°N 3.9647°W |
Statws treftadaeth | Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Efydd a phlwm oedd yn cael ei fwynglodio yma'n gyntaf, ond ar 29 Mehefin 1862 darganfuwyd aur - a chafwyd 'goldrush' a barodd hyd at 1911. Yn ystod y cyfnod hwn cloddiwyd 165,031 tunnell o fwyn-aur (gold ore); cafwyd 78,507 owns 'troy' (sef 2,442 kg) - o'i gymharu gydag ychydig dros 2,000 owns o Wynfynydd. I gario'r mwyn-aur, caed rheilffordd gyda'r rêls ddwy droedfedd oddi wrth ei gilydd.
Roedd dwy fwynglawdd fawr: Chwarel Dewi Sant a Chwarel Vigra. Caewyd yr olaf yn 1998.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.