Llanbedrog

pentref a chymuned yng Ngwynedd From Wikipedia, the free encyclopedia

Llanbedrog

Pentref, cymuned a phlwyf eglwysig yn ne-orllewin Llŷn, Gwynedd yw Llanbedrog ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Mae'n gorwedd ar lan Bae Ceredigion tua hanner ffordd rhwng Pwllheli i'r dwyrain ac Abersoch i'r de. Rhed y ffordd A499 trwy'r pentref.

Ffeithiau sydyn Math, Poblogaeth ...
Llanbedrog
Thumb
Mathcymuned, pentref 
Poblogaeth841 
Daearyddiaeth
SirGwynedd 
Gwlad Cymru
Cyfesurynnau52.8577°N 4.4848°W 
Cod SYGW04000068 
Cod OSSH328318 
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruMabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)
AS/au y DULiz Saville Roberts (Plaid Cymru)
Thumb
Cau
Am yr eglwys a phlwyf o'r un enw ger Penfro, gweler Llanbedrog, Sir Benfro.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)[1] ac yn Senedd y DU gan Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[2]

Mae penrhyn Mynydd Tir y Cwmwd (343 troedfedd) yn ei gysgodi i'r de. O'r copa ceir golygfeydd braf dros Fae Ceredigion ac Ynysoedd Tudwal ac i fryniau Eryri yn y gogledd-ddwyrain. Mae cerflun 'Y Dyn Haearn' i'w ganfod ar Fynydd Tir y Cwmwd.

Mae traeth Llanbedrog yn ddeniadol ac yn boblogaidd gan ymwelwyr. I'r gogledd ceir craig isel Carreg y Defaid.

Mae Llwybr Arfordir Cymru yn cysylltu Llanbedrog a Phwllheli.

Mae eglwys y plwyf yn bur hynafol. Fe'i cysegrir i Sant Pedrog. Eglwys un siambr hir ydyw, sy'n dyddio yn rhannol i'r 13g. Ychwanegwyd clochdy yn y 19g pan gafodd ei hatgyweirio'n sylweddol a'i thrawsnewid gan golli llawer o'i chymeriad hynafol. Mae'r bedyddfaen yn dyddio i'r 15g.

Mae Plas Glyn-y-Weddw, plasty Fictoraidd rhestredig Gradd II a chanolfan ddiwylliannol, wedi'i leoli yn y pentref.[3]

Thumb
Traeth Llanbedrog o Fynydd Tir y Cwmwd.
Thumb
Plas Glyn-y-Weddw

Cyfrifiad 2011

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6]

Rhagor o wybodaeth Cyfrifiad 2011 ...
Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llanbedrog (pob oed) (1,002)
 
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llanbedrog) (526)
 
54%
:Y ganran drwy Gymru
 
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llanbedrog) (488)
 
48.7%
:Y ganran drwy Gymru
 
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Llanbedrog) (273)
 
53.8%
:Y ganran drwy Gymru
 
67.1%
Cau

Enwogion

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.