pentref yng Ngwynedd From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref, cymuned, a phlwyf eglwysig yng Ngwynedd, Cymru, yw Llanwnda ( ynganiad ). Saif yn ardal Arfon ar briffordd yr A499 tua 3 milltir i'r de o dref Caernarfon. Llifa Afon Carrog drwy'r gymuned.
Math | cymuned, pentrefan |
---|---|
Poblogaeth | 2,084 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.1017°N 4.2783°W |
Cod SYG | W04000087 |
Cod OS | SH475584 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Siân Gwenllian (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Hywel Williams (Plaid Cymru) |
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Siân Gwenllian (Plaid Cymru)[1] ac yn Senedd y DU gan Hywel Williams (Plaid Cymru).[2]
Mae'r eglwys, a gysegrir i Sant Gwyndaf (Gwnda), yn sefydliad hynafol, ond mae'r rhan fwyaf o'r adeilad presennol yn dyddio i 1847 pan gafodd yr eglwys ei hailadeiladu yn gyfangwbl. Yn ôl y disgrifiadau o'r hen eglwys, roedd hi'n dyddio i'r 13g ac ar ffurf croes. Dim ond darnau o waelod muriau'r hen eglwys sy'n aros.[3]
Mae henebion y plwyf yn cynnwys caer hynafol Dinas y Pryf, bryngaer Hen Gastell a chaer dybiedig Dinas Dinoethwy.
Hefyd yn y plwyf ceir Rhedynog Felen, safle gwreiddiol Abaty Aberconwy. Daeth mynachod yno o Abaty Ystrad Fflur ar 24 Gorffennaf, 1186, ond symudasant i Aberconwy yn fuan wedyn. Arosodd y tir yn nwylo'r abaty Sistersiaidd hyd at gyfnod diddymu'r mynachlogydd.[3]
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6][7]
Cyfrifiad 2011 | ||||
---|---|---|---|---|
Poblogaeth cymuned Llanwnda, Gwynedd (pob oed) (1,994) | 100% | |||
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llanwnda, Gwynedd) (1,556) | 81.6% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 19% | |||
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llanwnda, Gwynedd) (1577) | 79.1% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 73% | |||
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Llanwnda, Gwynedd) (277) | 33.9% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 67.1% |
Mae yma ganolfan fro a agorwyd ym Medi 2006 i wasanaethu nifer o gymunedau gwledig Cymreig fel Bethesda Bach, Chatham, Dinas, Llanfaglan, Llandwrog, Llanwnda, Rhos Isa, Tai Lon a Saron, ac eraill. Mae'r ganolfan y drws nesaf i Ysgol Gynradd Felinwnda.
Ers ei hagor, mae yma ddwy gymdeithas wedi eu ffurfio o'r newydd, sef Clwb Garddio Felinwdna a Chymdeithas Hanes Tair Llan. Mae Cylch Meithrin Llanwnda yn cyfarfod yma, a Merched y Wawr Dinas. Mae'r ysgol gynradd leol hefyd yn defnyddio'r ganolfan, a cheir nifer o weithgareddau eraill ynddi, na fuasent yn digwydd heb y Ganolfan.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.