pentref yng Ngwynedd From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref bychan yng Ngwynedd yw Bronaber ( ynganiad) . Saif ar y briffordd A470, ychydig i'r de o bentref Trawsfynydd; Cyfeirnod OS: SH 71076 31631. Llifa afon Eden ychydig i'r gorllewin iddo, ac mae hen ffordd Rufeinig Sarn Helen fymryn i'r dwyrain.
Math | pentrefan |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.869°N 3.914°W |
Cod OS | SH711319 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Liz Saville Roberts (Plaid Cymru) |
Roedd gwersyll milwrol yma o tua 1906 ymlaen, a defnyddir yr ardal ar gyfer ymarfer tanio. Caewyd ef fel gwersyll milwrol yn 1957-8, ond yna fe'i defnyddiwyd ar gyfer gweithwyr oedd yn adeiladu Atomfa Trawsfynydd. Mae rhan o'r hen wersyll milwrol yn awr yn bentref gwyliau. Gerllaw mae gwesty Rhiw Goch, lle dywedir i'r merthyr Catholig Sant John Roberts gael ei eni.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)[1] ac yn Senedd y DU gan Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[2]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.