pentref yng Ngwynedd From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref yng Ngwynedd yw Cwm-y-glo[1] ( ynganiad ), hefyd Cwm y Glo, dwyrain o Llanrug. Saif fymryn oddi ar y briffordd A4086 gerllaw cyffordd y ffordd honno a'r A4244, yn agos at ben gogleddol Llyn Padarn, lle mae Afon Rhythallt yn gadael y llyn.
Math | pentref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.1411°N 4.1668°W |
Cod OS | SH551626 |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Siân Gwenllian (Plaid Cymru) |
AS/au | Hywel Williams (Plaid Cymru) |
Yn ôl yr hanesydd Glenda Carr, cyfeiria'r hen enw at 'golosg' yn hytrach na'r hyn a elwir heddiw'n 'lo', gan nad yw hon yn ardal lofaol. Golosg (sercol, siarcol, côc neu tendar) yw'r defnydd du hwnnw sy’n weddill wedi i bren fudlosgi. Mae'r cyfeiriad cyntaf am dŷ o'r enw Cwm-y-glo, yn hytrach na phentref, ac efallai mai yma y llosgid y pren i greu'r golosg. Ceir lle arall cyfagos, gyda'r gair glo yn rhan o'i enw, sef 'Erw Pwll y Glo', sydd ar y ffin rhwng plwyfi Llanrug a Llanddeiniolen, yn eitha agos at gapel Nasareth. Cofnodir yr enw yma yn gyntaf yn 1597 a daw'r cyfeiriad cynharaf at Cwm-y-glo o’r flwyddyn 1770. Yn ôl Carr, roedd golosg yn hynod o bwysig yn efail y gof, gan ei fod yn creu tân arbennig o eirias.[2]
Datblygodd y pentref gyda thŵf Chwarel Dinorwig, er fod rhai adeiladau yn hŷn na'r cyfnod yma. Agorwyd nifer o siopau a busnesau bychain yma yn y blynyddoedd diwethaf. Lladdwyd pum person mewn damwain yno yn 1869, pan ffrwydrodd dwy wagenaid o olew Nitro-glycerine oedd ar eu ffordd i chwareli llechi Llanberis.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.