Glan-y-wern
pentref yng Ngwynedd From Wikipedia, the free encyclopedia
pentref yng Ngwynedd From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref bychan yn ne Gwynedd yw Glan-y-wern ( ynganiad ). Mae'n gorwedd yn ardal Ardudwy ar bwys y briffordd A496 tua hanner ffordd rhwng Harlech i'r de a Maentwrog i'r gogledd.
Math | gwrthrych daearyddol |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.88518°N 4.08211°W |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Liz Saville Roberts (Plaid Cymru) |
Y pentrefi agosaf yw Talsarnau, llai na filltir i'r gorllewin, a Llanfihangel-y-traethau ('Ynys'), filltir i'r gogledd ar yr A496. Gwasaneithir Glan-y-wern a Llanfihangel gan orsaf reilffordd Tŷ Gwyn ar lein Rheilffordd Arfordir Cymru chwarter milltir i'r de-orllewin o'r pentref. Mae lôn hynafol yn dringo o Lan-y-wern trwy Lyn Cywarch ac Eisingrug i Gwm Eisingrug lle mae llwybr yn arwain heibio i'r llynnoedd wrth droed Moel Ysgyfarnogod a trosodd i gyfeiriad Trawsfynydd.
Mae Pont Glan-y-wern yn dwyn yr A496 dros afon Eisingrug yn y pentref. I'r de-orllewin o'r pentref ceir gwastadedd eang Morfa Harlech, sy'n Warchodfa Natur Cenedlaethol.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)[1] ac yn Senedd y DU gan Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[2]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.