Llanengan
From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref, plwyf eglwysig a chymuned yng Ngwynedd, Cymru, yw Llanengan[1][2] ( ynganiad ). Saif yn ardal Llŷn, tuag 8 milltir i'r de-orllewin o dref Pwllheli.
![]() | |
Math | cymuned, pentref |
---|---|
Poblogaeth | 1,684 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.809°N 4.531°W |
Cod SYG | W04000076 |
Cod OS | SH293269 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Liz Saville Roberts (Plaid Cymru) |
![]() | |
Saif pentref Llanengan heb fod ymhell o'r môr, i'r de-orllewin o Abersoch. Cysegrwyd yr eglwys, sy'n dyddio o oddeutu'r 15g, i Sant Engan.
Heblaw pentref Llanengan, mae cymuned Llanengan yn cynnwys pentrefi Abersoch, Mynytho, Bwlchtocyn a Llangïan. Mae'r boblogaeth yn 2,124.
I'r gorllewin ceir traeth llydan Porth Neigwl. Gellir cyrraedd y bae trwy ddilyn lôn o'r pentref i Dai-morfa lle ceir llwybr sy'n arwain i'r traeth.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)[3] ac yn Senedd y DU gan Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[4]

Cyfrifon Robert Thomas y crydd
Enwau tai
Nododd Robert Thomas y crydd (Gongl Gron, Llanengan) yn ei lyfrau cownt o 1868-74 nifer o enwau anheddau‘r plwyf (ynghyd ag enwau’r cwsmeriaid a breswyliai ynddynt), llawer ohonynt wedi peidio a bod mwyach: Deicws Bach Ceiriad, Wil Tyddynglasdwrn, Dic Morfa, Ellen Punt y Gwair, Evan Llain, Thomas Owen Ty’r Ysgol Llan, Cadi Difir, William Roberts Picstreet, Geini Tywyn, Robert Pengogo, Harry Caegwynllian, Logiar Corn, Nelli Lone Bach Morfa Neigwl, hen ddynas Creigr Coch, hen Ann Lawrdre bella, ac un go ryfedd - Twm Corffyfarwolaeth (weithiau Twm Refel neu Corff y farwolaeth.[5]
Galwedigaethau
Enwir nifer o gwsmeriaid yn y llyfrau cownt yn ôl eu gwaith: Morwynion (cyfanswm o 6); Morwyn Dafern Abersoch, Ellen hen forwyn Tan y Fonwent [sic.], Lydia mowyn Barach, hen forwyn Plas Llwyndu, morwyn docdor, morwyn person Rhiw. Gweision (cyfanswm o 3): John gwas Tanrallt, Twm hen was Towyn, John gwas Trewern, Crefftwyr: John tailor, Evan Jones saer, Boy Saer ceryg, Ned masiwn Raber, John gof Sarn, Rich gof Cilan (+4 gof arall), Cloddwyr yn y gwaith plwm: enwir 11 meinar (3 yn unig ag enwau hysbys Cymreig, cyfenwau eraill yn Raw, Pock a Stiward. Cyfeirir at un fel “meinar du Tanybwlch”. Eraill a gysylltir â gwaith oedd Will Soldier, gwraig Police, Robert Watchmaker, School[master] Ysgol Bella. Yn Hydref 1872 cafodd “hen drampar gwad cryf”[5]
Cyfrifiad 2011
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[6][7][8]
Cyfrifiad 2011 | ||||
---|---|---|---|---|
Poblogaeth cymuned Llanengan (pob oed) (1,989) | 100% | |||
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llanengan) (1,074) | 55.4% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 19% | |||
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llanengan) (1091) | 54.9% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 73% | |||
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Llanengan) (408) | 42.3% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 67.1% |
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.