pentref yng Ngwynedd From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref a chymuned yng Ngwynedd, Cymru, yw Bryn-crug[1] ( ynganiad ), weithiau Bryncrug.[2] Saif y pentref i'r gogledd ddwyrain o dref Tywyn, ger cyffordd y briffordd A493 a'r B4405. Llifa Afon Dysynni ychydig i'r gorllewin.
Math | pentref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 622, 600 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 3,108.17 ha |
Cyfesurynnau | 52.6089°N 4.0561°W |
Cod SYG | W04000054 |
Cod OS | SH607032 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Liz Saville Roberts (Plaid Cymru) |
I'r de-orllewin o'r pentref mae plasdy Ynysymaengwyn; mae'r plasdy a godwyd yn 1758 bellach wedi ei ddymchwel. I'r de o'r pentref mae castell mwnt a beili Cynfal, a godwyd yn 1137 gan Cadwaladr ap Gruffudd, brawd Owain Gwynedd. Saif Castell Crug sef hen domen o'r Oesoedd Canol tua kilometr i'r de ddwyrain o'r pentref.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)[3] ac yn Senedd y DU gan Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[4]
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[5][6][7]
Cyfrifiad 2011 | ||||
---|---|---|---|---|
Poblogaeth cymuned Bryn-crug (pob oed) (622) | 100% | |||
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Bryn-crug) (316) | 52.4% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 19% | |||
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Bryn-crug) (323) | 51.9% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 73% | |||
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Bryn-crug) (114) | 39.6% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 67.1% |
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.