ffordd yng Ngwynedd From Wikipedia, the free encyclopedia
Priffordd yn ne Gwynedd yw'r A493, sy'n arwain ar hyd yr arfordir o gyffiniau Dolgellau hyd at gyffiniau Machynlleth.
Yr A493 yn Aberdyfi | |
Math | ffordd dosbarth A |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.6454°N 4.1107°W |
Hyd | 32 milltir |
Mae'n gadael y briffordd A470 fynryn i'r gogledd-orllewin o Ddolgellau, ac yn arwain tua'r gorllewin ar hyd glan ddeheuol Afon Mawddach heibio Penmaenpŵl, cyn troi tua'r de ger Arthog. Maen mynd heibio Y Friog a Llwyngwril, yna ychydig ar ôl Llangelynnin yn troi tua'r dwyrain i ffwrdd o'r arfordir heibio Llanegryn a chroesi Afon Dysynni i bentref Bryncrug.
Wedi dychwelyd at yr arfordir i fynd trwy dref Tywyn, mae'n parhau tua'r de hyd Aberdyfi, lle mae'n troi tua'r dwyrain i arwain ar hyd glan ogleddol Afon Dyfi trwy Pennal. Mae'n ymuno a'r A487 ger Pont ar Ddyfi, rhyw filltir i'r gogledd o Fachynlleth.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.