Pentref, plwyf a chymuned yn Llŷn, Gwynedd From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref, plwyf a chymuned yng Ngwynedd, Cymru, yw Llannor ( ynganiad ). Saif yn Llŷn ar ffordd gefn ychydig i'r gogledd o dref Pwllheli.
Math | cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 2,089 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.908°N 4.449°W |
Cod SYG | W04000084 |
Cod OS | SH353373 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Liz Saville Roberts (Plaid Cymru) |
Ceir carreg arysgifiedig yma, sy'n coffhau person o'r enw VENDESETI, sy'n cael ei uniaethu a'r sant Gwynhoedl. Cafwyd hyd i ddau faen o wenithfaen a ffurfiai ochrau bedd dir Tir Gwyn; mae'r rhain yn awr i'w gweld yn Oriel Plas Glyn y Weddw.
Ychydig i'r gorllewin mae plasdy Bodfel, a arferai fod yn gartref teulu dylanwadol Wyniaid Bodfel.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)[1] ac yn Senedd y DU gan Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[2]
Mae Cymuned Llannor yn cynnwys pentrefi Abererch a Rhos-fawr.
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5]
Cyfrifiad 2011 | ||||
---|---|---|---|---|
Poblogaeth cymuned Llannor (pob oed) (2,145) | 100% | |||
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llannor) (1,614) | 77.7% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 19% | |||
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llannor) (1614) | 75.2% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 73% | |||
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Llannor) (323) | 34.6% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 67.1% |
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.