pentref a chymuned yng Ngwynedd From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref a chymuned yn ne Gwynedd yw Corris ( ynganiad ). Yn 2001 roedd poblogaeth y pentref yn 613 o drigolion.[1] Mae'r gymuned yn cynnwys y pentrefi Aberllefeni, Corris Isaf, Corris Uchaf a Phantperthog, pentrefi a sefydlwyd yn sgil datblyu'r chwareli llechi yn y 19g. Caewyd chwarel Aberllefenni yn 2003. Roedd y pentref ar yr hen ffordd dyrpeg o Ddolgellau i Fachynlleth; mae priffordd yr A487 a gymerodd ei lle yn osgoi canol y pentref.
Math | pentref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 599 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.6536°N 3.8419°W |
Cod SYG | W04000058 |
Cod OS | SH755078 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Liz Saville Roberts (Plaid Cymru) |
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)[2] ac yn Senedd y DU gan Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[3]
Daw'r enw, a gofnodwyd gyntaf yn y 13g, o'r gair Cymraeg corres ('cor/corrach benywaidd'). Yma y mae'n debyg ei fod yn golygu 'un fechan', gan gyferio at yr afon (Afon Corris gynt ond bellach Afon Deri) sy'n llifo i Afon Dulas yn Aber Corris.[4]. Felly er bod nifer o chwareli llechi yn y cyffiniau, nid oes a wnelo'r enw Corris ddim oll â'r gair Saesneg quarries. Yn y gorffennol cynigiwyd rhai esboniadau ffansïol eraill, megis y canlynol gan Thomas Morgan ('Afanwyson', 1850–1939): 'We find the forms Corys and Corus in the Cambrian Register for 1795. Some think the place takes its name from a saint called Corus. It is also said that Cunedda Wedig had a son called Coras. Others think that the river which gives the place its name, was called Corus from its making round excavations in the angles of its banks.'[5]
Mae 'Corris' hefyd yn enw ar afon fechan yn Sir Ddinbych, un o isafonydd Clywedog sydd yn ei thro yn llifo i Afon Clwyd.
Ar un adeg gelwid y pentref yn Abercorris (Abercorys ar rai mapiau cynnar).
Saif Corris ar lan orllewinol Afon Dulas, sy'n ffin rhwng Gwynedd a Phowys yma. Mae Afon Deri yn llifo trwy'r pentref ei hun cyn ymuno ag Afon Dulas. Yn ôl pob tebyg yr oedd ffordd Rufeinig Sarn Helen hefyd yn rhedeg trwy'r pentref. Ceir yma sawl tafarn gan gynnwys "Tafarn y Chwarelwr".[6]
Ar un adeg yr oedd nifer o chwareli llechi yma ac agorwyd tramffordd yn 1859 i gludo'r llechi i Fachynlleth ac ymlaen at Afon Dyfi i'w llwytho i gychod o'r cei yn Nerwenlas neu Morben.[7] Ceffylau oedd yn tynnu'r wageni'n wreiddiol ond yn 1878 agorwyd Rheilffordd Corris. Ail-agorwyd rhan o'r hen reilffordd yn y 2010au: o Gorris i Gyffordd Maespoeth.
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[8][9][10]
Cyfrifiad 2011 | ||||
---|---|---|---|---|
Poblogaeth cymuned Corris (pob oed) (723) | 100% | |||
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Corris) (367) | 52.6% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 19% | |||
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Corris) (339) | 46.9% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 73% | |||
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Corris) (106) | 32.4% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 67.1% |
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.