From Wikipedia, the free encyclopedia
Athletwr Cymreig oedd John Ivor Disley (20 Tachwedd 1928 – 8 Chwefror 2016). Cystadlodd yn bennaf yn y ras ffos a pherth 3000m cyn cyd-sefydlu Marathon Llundain a dod yn weithgar yn hyrwyddo a rheoli chwaraeon.[1] Ganwyd ym mhentre Corris yng Ngwynedd ac aeth i Ysgol Uwchradd Croesoswallt i Fechgyn cyn astudio yng Ngholeg Loughborough.[1]
John Disley | |
---|---|
Ganwyd | 20 Tachwedd 1928 Gwynedd |
Bu farw | 8 Chwefror 2016 Llundain |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | cystadleuydd yn y Gemau Olympaidd, cyfeiriannydd |
Taldra | 180 centimetr |
Pwysau | 71 cilogram |
Priod | Sylvia Cheeseman |
Gwobr/au | CBE |
Chwaraeon | |
Safle | rasys ffos a pherth |
Gwlad chwaraeon | Cymru, y Deyrnas Unedig |
Cystadlodd dros Brydain Fawr yng Ngemau Olympaidd Haf 1952, Helsinki yn y ras ffos a pherth 3000 metr lle enillodd fedal efydd.[2] Sefydlodd bum record Brydeinig yn y ras ffos a pherth a phedwar yn y ras dwy filltir. Sefydlodd record Gymreig mewn chwe pellter gwahanol. Torrodd y record ar gyfer croesi pob copa Cymreig dros 3000 troedfedd.
Cynrychiolodd Gymru ddwywaith yng Ngemau'r Gymanwlad, gan gystadlu yn 1954 a 1958, ond ni enillodd unrhyw fedalau. Swydd Disley oedd dysgu Addysg Gorfforol yn Ysgol Ramadeg Isleworth yn ne-orllewin Llundain.[1]
Disley oedd un o sefydlwyr Marathon Llundain, a gynhaliwyd gyntaf yn 1981, ar ôl iddo redeg Marathon Dinas Efrog Newydd yn 1979 ac edmygu ei lwyddiant. Roedd yn llywydd Ymddiriedolaeth Elusennol Marathon Llundain.[2] Daeth Disley yn is-gadeirydd Cyngor Chwaraeon y DU yn 1974, swydd a wnaeth hyd 1982. Roedd yn un o brif arloeswyr cyfeiriadu yn y DU.
Roedd yn aelod o Oriel Enwogion Chwaraeon Cymru ac yn Llywydd Cymdeithas Eryri.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.