From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref gwledig a chymuned yn ardal Arfon, Gwynedd, yw Betws Garmon ( ynganiad ). Saif ar yr A4085 ar ymyl Eryri, traean o'r ffordd rhwng Caernarfon a Beddgelert; Cyfeirnod OS: SH 54546 56819. Ar hyd y ffordd i gyfeiriad y gogledd, Waunfawr yw'r pentref agosaf ac i'r de mae'r ffordd yn ei gysylltu â Salem a Rhyd-ddu, pentref genedigol T. H. Parry-Williams.
Math | pentref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 249, 245 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 3,900.26 ha |
Cyfesurynnau | 53.08°N 4.163°W |
Cod SYG | W04000050 |
Cod OS | SH535575 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Siân Gwenllian (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Hywel Williams (Plaid Cymru) |
Mae lleoliad y pentref yng ngogledd Eryri gyda bryniau Moel Eilio (2382') i'r dwyrain a thalp Mynydd Mawr (2290') i'r de-orllewin. Llifa Afon Gwyrfai sy'n tarddu yn Llyn Cwellyn tair milltir i'r de, heibio i'r pentref, sy'n sefyll ar ei glan ddwyreiniol. Filltir y tu allan i'r pentref i'r de, ar ymyl yr A4085, mae Melin y Nant a'i rhaeadr fach.
Mae'r eglwys, sy'n dyddio o 1842, yn un o nifer yng Nghymru sy'n gysegredig i Sant Garmon. Ond yr eglwys newydd yw honno, a cheir olion yr hen eglwys yn ei hymyl. Dim ond y bedyddfaen sy'n aros o'r hen eglwys, a hwnnw'n ddyddiedig 1634. I fyny ar un o'r bryniau gerllaw, Moel Smytho, ceir Ffynnon Armon, dros y cwm o'r eglwys bresennol, a rhwng y ffynnon a'r eglwys newydd mae olion hen addoldy syml o'r enw Capel Garmon. Un drws yn unig sydd iddo a'i hyd yw 23' a'i led 12.5'.[1]
Dyma'r argraffiadau cyntaf: mae cledrau rheilffordd ar y gwaelod-chwith. Nid yw tyllau mwynglawdd haearn Moel Eilio wedi eu creu. Mae cof-golofn Owain Gwyrfai yn ymddangos fel ei fod yno yn y fynwent ond angen gwirio hynny. Bu farw yn 1874 naw mlynedd cyn tynnu'r llun. Dydd Gwener oedd y 10 Awst 1883 ond mae'r bobl i'w gweld fel petaent yn eu dillad gorau - achlysur arbennig ynteu dangos eu hunain i'r camera? Ffrwydrodd llosgfynydd Krakatoa tair wythnos wedyn. Gofynnodd Ifor Williams: ”a ddaeth y bobl allan gan wybod fod yna rhywun yn tynnu llun, neu bod y ffotograffydd wedi gofyn iddynt?[2]
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5]
Cyfrifiad 2011 | ||||
---|---|---|---|---|
Poblogaeth cymuned Betws Garmon (pob oed) (249) | 100% | |||
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Betws Garmon) (131) | 54.8% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 19% | |||
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Betws Garmon) (123) | 49.4% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 73% | |||
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Betws Garmon) (34) | 30.6% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 67.1% |
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.