Conwy (tref)

tref yng Nghymru From Wikipedia, the free encyclopedia

Conwy (tref)

Tref a chymuned ym mwrdeistref sirol Conwy, Cymru, yw Conwy.[1][2] (Fe'i hadwaenir yn draddodiadol yn Saesneg fel Conway.) Roedd cynt yng Ngwynedd a Sir Gaernarfon cyn hynny. Mae'n enwog fel tref gaerog, am ei chastell, ac am y pontydd ar draws Afon Conwy. Mae ganddi boblogaeth o tua 14,208, sydd hefyd yn cynnwys Deganwy a Chyffordd Llandudno. Mae'n un o brif atyniadau twristaidd Gogledd Cymru.

Ffeithiau sydyn Math, Poblogaeth ...
Conwy
Thumb
Mathtref, fortified town 
Poblogaeth15,700 
Sefydlwyd
  • 1283 
Daearyddiaeth
SirConwy 
Gwlad Cymru
GerllawAfon Conwy 
Cyfesurynnau53.28°N 3.83°W 
Cod SYGW04000902 
Cod OSSH775775 
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruJanet Finch-Saunders (Ceidwadwyr)
AS/au y DUClaire Hughes (Llafur)
Thumb
Cau

Daearyddiaeth

Saif y dref ar lan orllewinol Afon Conwy, gan wynebu Deganwy, sydd ar ochr arall yr afon.

Hanes

Codwyd y castell a'r waliau gan Edward I, brenin Lloegr, rhwng 1283 a 1289. Fe'u gosodwyd ar restr Safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO yn 1986, fel rhan o'r safle Cestyll a Muriau Trefi'r Brenin Edward yng Ngwynedd.[3] Yma hefyd y safai Mynachdy Aberconwy, a sefydlwyd gan Llywelyn Fawr.

Ers dros 700 mlynedd, cynhelir Ffair Fêl Conwy ar strydoedd y dref ar 15 Medi bob blwyddyn.

Adeiladau

Atyniadau yn y cylch

Cludiant

Mae gan Conwy orsaf ar Reilffordd Arfordir Gogledd Cymru sy'n ei chysylltu â Chaergybi a Chaer.

Rhed nifer o wasanaethau bysiau rhwng Conwy a threfi a phentrefi Dyffryn Conwy ac ardaloedd eraill. Mae ar brif lwybr bws arfordir Gogledd Cymru yn ogystal.

Cyfrifiad 2011

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6][7]

Rhagor o wybodaeth Cyfrifiad 2011 ...
Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Conwy (tref) (pob oed) (14,723)
 
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Conwy (tref)) (3,901)
 
27.3%
:Y ganran drwy Gymru
 
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Conwy (tref)) (8559)
 
58.1%
:Y ganran drwy Gymru
 
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Conwy (tref)) (2,686)
 
40.6%
:Y ganran drwy Gymru
 
67.1%
Cau

Oriel

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.