Remove ads
bryngaer ger Conwy From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Caer Seion yn fryngaer Geltaidd sy'n perthyn i Oes yr Haearn, ac sydd wedi'i lleoli ger Conwy yn Sir Conwy, Cymru; cyfeirnod OS: SH759777. Enwau arall arni yw (Castell) Caer Leon neu Castell Caer Seion. Mae'n sefyll ar gopa uchaf Mynydd Caer Seion (Mynydd y Dref), 806 troedfedd uwchben lefel y môr a thua milltir a hanner i'r gorllewin o dref Conwy yng ngogledd Cymru.
Cofrestrwyd y fryngaer hon gan Cadw a chaiff ei hadnabod gyda'r rhif SAM unigryw: CN012.[1] Ceir tua 300 o fryngaerau ar restr CADW o henebion, er bod archaeolegwyr yn nodi bod oddeutu 570 ohonyn nhw i gyd yng Nghymru.
Mae'r gaer yn mwynhau lleoliad strategol iawn ar ben Mynydd Caer Seion. Mae'r olygfa o'i muriau'n drawiadol. I'r gorllewin gwelir bryniau cyntaf y Carneddau ac Afon Menai. Yn y gorllewin mae Bae Conwy ac ardal Penmon ar Ynys Môn. Dros y dŵr i'r gogledd-ddwyrain mae'r Gogarth a bryniau Deganwy (safle Castell Degannwy, amddiffynfa strategaidd diweddarach a godwyd gan Maelgwn Gwynedd). Gwelir rhannau isaf Afon Conwy a'i glannau yn glir, ynghyd â'r holl ddyffryn i lawr i gyffiniau Caerhun a'i rhyd bwysig a warcheid gan gaer Rufeinig. Rhwng y gaer a bryniau'r Carneddau rhed hen lwybrau cynhanesyddol o lan Conwy i gyfeiriad arfordir gogleddol Eryri. Mewn gair mae'r gaer yn wylfa ddelfrydol.
Mae ein gwybodaeth am hanes y gaer yn seiliedig ar dystiolaeth archaeolegol. Ymddengys ei bod yn cael ei defnyddio o Oes yr Haearn hyd y cyfnod Rhufeinig (fel yn achos bryngaer Tre'r Ceiri yn Llŷn a llefydd eraill). Er bod nifer o gytiau crwn yn y gaer mae'n annhebygol iddi gael ei defnyddio trwy gydol y flwyddyn oherwydd ei huchder. Gwylfa a noddfa yn hytrach na phreswylfa parhaol oedd hi, yn ôl pob tebyg.
Yn ôl yr archaeolegwyr a gloddiasant yno yn 1951, atgyfnerthwyd ac ehangwyd y gaer yng nghanrifoedd olaf y mileniwm cyntaf CC.
Mae muriau'r gaer yn amgylchynnu bron i 3 hectar o dir. Mae'r brif fynedfa yn y pen dwyreiniol. Ynddo ceid gosodiad sgwar o bedwar postyn yn cynnal porth a phont (yn ôl pob tebyg). Yn ei hymyl yr oedd siambr warchod lle cafwyd hyd i dros gant o gerrig ffon-dafl.
Yn nhir amgaeedig y pen gorllewinol ceir olion cytiau crwn; roedd hyn yn adran o'r gaer ar wahân, heb fynediad o'r tu allan iddo.
Yn y de ceir wal ar gwrs igam-ogam gyda mynedfa 6m o led a 7m o hyd. Mae slabiau carreg mawr unionsyth ar hyd dau wyneb mewnol y porth. Am rwy reswm caewyd y porth hwn yn ystod ail gyfnod yr adeiladu.
Y mynediad hawsaf i'r gaer yw o gyfeiriad Bwlch Sychnant, ar yr hen lôn rhwng Conwy a Phenmaenmawr. Yno mae llwybr eglur (rhan o Lwybr y Gogledd) yn dringo iddi heibio fferm Pen Pyra. Y dewis amlwg arall yw i dilyn Llwybr yr Arfordir o gyfeiriad Conwy.
Mae'r gaer yn heneb rhestredig, yng ngofal Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.