From Wikipedia, the free encyclopedia
Rheilffordd cledrau cul yn Eryri, Gwynedd yw Rheilffordd Eryri neu Reilffordd Ucheldir Cymru (Saesneg: Welsh Highland Railway). Lled y traciau yw 1'11 1/2". Ailagorwyd y lein yn raddol, gan ddechrau o Gaernarfon. Yn 2010 ailagorwyd y lein hyd at Bont Croesor, ac erbyn 2012 roedd wedi cyrraedd Porthmadog, ble ceir mae'n cysylltu gyda Rheilffordd Ffestiniog.
Math | rheilffordd cledrau cul, rheilffordd dreftadaeth, cwmni rheilffordd |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Porthmadog |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.0514°N 4.1336°W |
Hyd | 40 cilometr |
Agorwyd Rheilffordd Nantlle, sy'n rheilffordd cledrau cul (3 troedfedd a 6 modfedd), ym 1828, gan gysylltu chwareli Nantlle efo porthladd Caernarfon 8 milltir i ffwrdd. Troswyd y lein o Gaernarfon hyd at Ddinas yn rheilffordd led safonol yn ystod y 1860au gan Rheilffordd Sir Gaernarfon, i fod yn rhan o'u lein i Afon Wen.
Adeiladwyd Tramffordd Croesor ym 1864 efo cledrau lled 1 troedfedd a 11 ¾ modfedd iddo, i gario llechi o chwareli Croesor i Borthmadog.
Syniad Charles E. Spooner oedd y reilffordd hon. Ysgrifennydd a pheiriannydd Rheilffordd Ffestiniog ydoedd o hyd at 1887; roedd hefyd yn berchennog chwarel ym Mryngwyn. Ei syniad gwreiddiol oedd creu rhwydwaith o reilffyrdd yn cysylltu Betws y Coed, Pwllheli a Chorwen.[1]
Rhwng 1873 ac 1877, adeiladwyd lein 5 milltir (8 km) o hyd rhwng Bryngwyn – lle roedd chwarel Charles Spooner – a Dinas, cyffordd ar gyfer Caernarfon. Adeiladwyd lein o Gyffordd Tryfan trwy Waunfawr hyd at Lyn Cwellyn erbyn 1877,[2] efo estyniad i Ryd Ddu erbyn 1881.
Ffurfiwyd cwmni ym 1901 i adeiladu lein o Dramffordd Croesor trwy Feddgelert ac i Nant Gwynant. Awdurdodwyd adeiladu gorsaf bŵer yn Nant Gwynant gan ddefnyddio trenau trydanol. Cyfeiriwyd y geiriau 'De Wyddfa' i chwarel. Cwblhawyd yr orsaf bŵer, ac mae hi'n cynhyrchu trydan hyd heddiw.[3]
Dechreuodd waith ym Mwlch Aberglaslyn ym 1905. Archebwyd locomotif stêm Russell gan gwmni Hunslet, ond oherwydd diffyg arian, daeth popeth i ben.
Crëwyd Rheilffordd Eryri ym 1922, gan uno Rheilffordd Cledrau Cul Gogledd Cymru a Rheilffordd Porthmadog, Beddgelert a De Wyddfa, ac wedi derbyn benthyciadau gan Weinidogaeth Trafnidiaeth a gan awdurdodau lleol, cwblhawyd y rheilffordd ym 1923, gan gynnwys lein trwy Borthmadog yn cysylltu'r ddwy reilffordd. Erbyn hyn roedd gan y rheilffordd locomotif Fairlie sengl Moel Tryfan, a phrynwyd injan Baldwin oddi wrth yr Adran Rhyfel. Ni enillodd y rheilffordd erioed ddigon i dalu'r llog ar ei benthyciadau.
Ar ôl gaeaf 1923/4, daeth y gwasanaeth i deithwyr yn un tymhorol. Penodwyd Cyrnol Stephens – arbenigwr am redeg rheilffyrdd yn gynnil - yn brif beiriannydd ym 1923, ac yn cyfarwyddwr ym 1925. Ond roedd y diwydiant llechu'n dirywio, a bysiau a loriau'n dod yn fwy gyffredin, ac aeth y rheilffordd i law y derbynnydd ym 1927. Penodwyd Cyrnel Stephens yn dderbynnydd.[4]
Ond goroesodd y rheilffordd, ac ym 1934 cymerodd y Rheilffordd Ffestiniog brydles 42 mlynedd i weithredu'r lein. Ond doedd yno ddim digon o draffig; felly gorffennodd y wasanaeth i deithwyr ar 5 Medi 1936, a chaewyd y lein yn gyfan gwbl o 1 Mehefin 1937. Erbyn 1948, roedd y cledrau wedi mynd.
Caewyd y lein faint safonol rhwng Dinas a Chaernarfon ym 1964, a daeth yn llwybr beicio.
Ffurfiwyd cymdeithas a ddaeth yn Gwmni Cyfyngedig y Rheilffordd Ysgafn Ucheldir Cymru (1964). Sefydlwyd terminws ar safle hen gulffordd cledrau safonol ym Mhorthmadog, ac adeiladwyd lein fer hyd at Ben-y-Mount. Rhedodd trenau o 1980 ymlaen. Dechreuwyd trafodaeth pellach efo'r derbynnydd swyddogol ac efo awdurdodau lleol, ond cymhlethwyd ymdrechion gan gynlluniau ffordd arfaethedig.
Erbyn 1982 roedd y Rheilffordd Ffestiniog wedi cwblhau eu lein i Flaenau Ffestiniog, ac ym 1989, darganfuwyd bod nhw wedi gwneud cynnig cyfrinachol am lwybr y Rheilffordd Eryri. Eu cynllun oedd dechrau adeiladu o Gaernarfon i Borthmadog, ac yn creu siwrnai 40 milltir o hyd. Ffurfiwyd cwmni ym 1993.
Ar ôl sawl blwyddyn o ddadlau, gwrandawiad yn yr Uchel-lys thri ymchwiliad cyhoeddus ac un apêl, enillodd y Rheilffordd Ffestiniog eu hachos.
Dechreuodd y gwaith adeiladu ym 1997, ac agorwyd y lein rhwng Caernarfon a Dinas ar 13 Hydref yr un flwyddyn. Daeth 3 locomotif NG/G16 2-6-2+2-6-2 Beyer Garratt o Dde Affrica. Prynwyd un arall o'r un dosbarth gan Pete Waterman; atgyweirir yr injan yn ei weithdy yng Nghryw.
Daeth cyllid o sawl ffynhonnell at gost yr estyniad nesaf, hyd at Ryd Ddu, gan gynnwys £4.3 miliwn o Gomisiwn y Mileniwm. Agorwyd y lein o Ddinas i Waunfawr yn Awst 2000, ac o Waunfawr i Ryd Ddu ar 18 Awst 2003.
Cytunwyd y buasai'r Cwmni Cyfyngedig y Rheilffordd Ysgafn Ucheldir Cymru (1964) – erbyn hyn Cwmni Cyfyngedig y Rheilffordd Ucheldir Cymru – yn ail-adeiladu'r lein o Ben-y-Mount i Bont Croesor. Achoswyd problemau yr adeg honno gan glefyd troed a genau, ond erbyn 2008, dechreuodd gwasanaeth o Borthmadog i Draeth Mawr.
Ym Medi 2004, cyhoeddwyd gan y Rheilffordd Ffestiniog bod cyfanswm o £5 miliwn wedi cael ei awdurdodi gan y Cynulliad ac yr Undeb Ewropeaidd.
Cyflawnwyd gorsaf Rhyd Ddu yn 2006. Estynnwyd y lein i Feddgelert ac wedyn i Hafod y Llyn yn 2009, i Bont Croesor yn 2010, ac yn 2012 agorwyd y darn olaf, ar draws Bont Britannia i orsaf Borthmadog.
Daeth dau locomotif o'r cymnïau cynharach, Moel Tryfan a Russell. Prynwyd Baldwin 590 gan Gyrnol Stephens, a defnyddiwyd sawl injan y Rheilffordd Ffestiniog rhwng 1923 a 1937.[4]
Enw neu rif | Trefn yr olwynion | Adeiladwr | Adeiladwyd | Nodiadau |
---|---|---|---|---|
Moel Tryfan | 0-6-4T | Vulcan Foundry | 1875 | cynt o Reilffordd Cledrau Cul Gogledd Cymru |
Russell | 2-6-2T | Cwmni Hunslet | 1906 | cynt o Reilffordd Porthmadog, Beddgelert a De Wyddfa |
590 | 4-6-0T | Cwmni Baldwin | 1917 | cynt o Reilffyrdd Ysgafn yr Adran Ryfela |
Rhif | Enw | Trefn yr olwynion | Adeiladwyd | Adeiladwr | Delwedd | Nodiadau |
---|---|---|---|---|---|---|
K1 | 0-4-0+0-4-0 | 1909 | Beyer-Peacock | Ex-Rheilffyrdd Llywodraeth Tasmania Dosbarth K, y locomotif Garratt cyntaf. Atgyweiriwyd a dechreuodd ei waith yn ystod 2006. Cyfnewidiwyd i ddefnyddio glo, ac yn gweithio eto. | ||
87 | 2-6-2+2-6-2 | 1937 | Cockerill | Cynt o Reilffyrdd De Affrica NGG Dosbarth 16 Garratt. Treuliodd mwyafrif ei amser yn gweithio ar reilffyrdd dwy droedfedd o led yn Ne Affrica cyn iddo gael ei ddisodlu gan locomotifau diesel. Mewnforiwyd i Brydain gan Ganolfan Stêm Exmoor, a phrynwyd ohonynt. Atgyweiriwyd yng Ngweithdy Boston Lodge. Mae'n llosgi glo. Cafodd lifrai llwyd yn wreiddiol, ond ail-beintiwyd yng nglas tywyll ym Mawrth 2010. | ||
109 | 2-6-2+2-6-2 | 1939 | Beyer-Peacock | Cynt o Reilffyrdd De Affrica.NGG Dosbarth 16 Garratt. Prynwyd yn 2009 o Reilffordd Stêm Exmoor gan Pete Waterman er mwyn ei ddefnyddio ar Reilffordd Eryri. atgyweirir yr injan yn ei weithdy yng Nghryw gan brentisiaid fel rhan eu hyfforddiant. Dylai'r injan dechrau gweithio yn 2012..[5] | ||
133 | 2-8-2 | 1953 | Société Anglo-Franco-Belge | Dosbarth NG15, cynt o Reilffyrdd De Affrica, ac angen ei atgyweirio. | ||
134 | 2-8-2 | 1953 | Société Anglo-Franco-Belge | Dosbarth NG15, cynt o Reilffyrdd De Affrica, Atgyweirir yn Ninas ar hyn o bryd. | ||
138 | Millennium/ Mileniwm | 2-6-2+2-6-2 | 1958 | Beyer-Peacock | Cynt o Reilffyrdd De Affrica.NGG Dosbarth 16 Garratt, efo lifrai coch. Dechreuodd ei waith ym 1997efo lifrai gwyrdd tywyll, wedyn yng ngwyrdd malachite o 2002 ymlaen, pan gafodd ei enwi. Cafodd waith atgyweirio ac arolwg boeler rhwng 2007 a 2010, pan ddychwelodd mewn lifrai crimson lake. | |
140 | 2-6-2+2-6-2 | 1958 | Beyer-Peacock | Cynt o Reilffyrdd De Affrica.NGG Dosbarth 16 Garratt, efo lifrai coch. Mae gwaith atgyweirio'n mynd ymlaen yn Ninas, a gwaith ar ei foeler yng Nhryw yng ngweithdy Peter Waterman, er mwyn defnyddio'r boeler ar 143. Gwelir 140 yn brosiect hir tymor. | ||
143 | 2-6-2+2-6-2 | 1958 | Beyer-Peacock | Cynt o Reilffyrdd De Affrica.NGG Dosbarth 16 Garratt, efo lifrai gwyrdd. Y locomotif olaf a adeiladu gan Gymni Beyer, Peacock ym Manceinion. Dechreuodd efo lifrai du plaen yn 1998. Atgyweirir ar gyfer ail-ardystio'r boeler rhwng 2009 a 2011, pan dychwelodd efo lifrai gwyrdd. |
Rhif | Enw | Trefn yr olwynion | Adeiladwyd | Adeiladwr | Delwedd | Nodiadau |
---|---|---|---|---|---|---|
Castell Caernarfon | B-B | 1967 | CH Funkey a Chwmni (Pty) Cyf | Adeiladwyd y locomotif diesel hydrolig hwn i weithio yng ngwaith diemwnt a defnyddiwyd pellach ar gyfer trafnidiaeth sment ym Mhort Elizabeth. Mewnforiwyd Castell Caernarfon a Vale of Ffestiniog gan y Rheilffordd Ffestiniog, ac ailadeiladwyd Vale of Ffestiniog ar gyfer gwaith a'r Reilffordd honno. Aeth Castell Caernarfon i Ddinas yn Ionawr 1997. | ||
Upnor Castle | 4 olwyn | 1954 | F.C. Hibberd | Adeiladwyd Upnor Castle ar gyfer y Rheilffordd Chattenden ac Upnor. Gwerthwyd i Rheilffordd Y Trallwng a Llanfair ym 1962 ac i'r Rheilffordd Ffestiniog ym 1968 ac addaswyd i gledrau 2 droedfedd. Symudwyd i Ddinas, yn Awst 1997ar gyfer gweith ailadeiladu. | ||
Castell Conwy/
Conway Castle |
4 olwyn | 1958 | F.C. Hibberd | Adeiladwyd yr injan hwn ar gyfer Stordy Arfau y Llynges Ernesettle, Plymouth. Prynwyd gan y Rheilffordd Ffestiniog ym 1981 ac addaswyd i gledrau 2 droedfedd. Cafodd corff newydd ac atgyweiriwyd yng Ngweithdy Boston Lodge ym 1986 a defnyddiwyd yn aml ar drenau pull and push'.' Cafodd beiriant newydd yn Hydref 1999. Trosglwyddwyd i Ddinas yn Ebrill 2000. | ||
Castell Cidwm, yn wreiddiol Rhif 9 | 0-6-0 | 1953 | Baguley | Prynwyd yn 2009 ar gyfer trenau gwaith. Mae ganddo beiriant diesel Gardner.
Adeiladwyd i'r Cwmni Drewry Car ar gyfer Underhill Day a Chwmni Pty Ltd, a gweithiodd i'r South Johnstone Co-operative Sugar Milling Association Ltd yn Queensland, Awstralia. Cafwyd y rhif 9 a chludodd gansenni siwgr cane wagonsyn Innisfail, yng ngogledd Queensland. Prynwyd y locomotif gan aelod yr [Rheilffordd Lynton a Barnstaple|Ymddiriodolaeth Lynton a Barnstaple] yn 2004, a gadawodd yr injan Awstralia yn 2005. Credwyd bod cadwyd yr injan yn [Essex] ac wedyn yng [Gwlad yr Haf|Ngwlad yr Haf] cyn iddo symud i Reilffordd Stêm Exmoor. Mae angen atgyweirio ac addasu i gledrau 2 droedfedd..[6] | ||
Bill, Hunslet 9248 | 0-4-0 | 1985 | Hunslet | Cyrhaeddodd y rheilffordd 18 Chwefror 2010. Cynt ar reilffordd 2 troedfedd 6 modfedd yng Ngwaith Corus yn Shotton efo peiriant 115 hp diesel hydrolig Ford. Bydd yn siwntwr trwm yng ngweithdai Boston Lodge a Dinas. | ||
Ben, Hunslet 9262 | 0-4-0 | 1985 | Hunslet | Cyrhaeddodd y rheilffordd 18 Chwefror 2010. Yn debyg iawn i Bill. | ||
Dolgarrog | 0-4-0 | 1962 | Simplex | Locomotif bach ar fenthyg o Innogy a ddefnyddiwyd ar drenau gwaith, yn arbennig yn ystod gwaith adeiladu rhwng Rhyd Ddu a Phorthmadog. |
Mae'r rhai ddilynol wedi gweithio ar Reilffordd Eryri; rhai yn reolaidd cyn oedd yn ddigon o locomotifau'r Rheilffordd Eryri i gynnal gwasanaeth ddigonol, rhai yn ystod y proses o adeiladu'r lein. Ers cwblhad y lein rhwng y ddwy reilffordd, mae ymweliadau'n digwydd yn aml.
Ffynhonnell gwreiddiol ar gyfer cerbydau oedd: "Rheilffordd Eryri - Welsh Highland Railway Traveller's Guide" cyhoeddwyd gan Reilffordd Ffestiniog yn 2002. Diweddarwyd yn Nhachwedd 2012[8]
Rhif | Adeiladwyd | Adeiladwr | Math | Seddi | Delwedd | Nodiadau |
---|---|---|---|---|---|---|
23 | 1894 | Cwmni Ashbury | 7 adran | 42 | Adeiladwyd i'r Rheilffordd Cledrau Cul Gogledd Cymru a ddaeth yn eiddo Rheilffordd Eryri ym 1923 a lleihawyd ei uwchder ar gyfer Rheilffordd Ffestiniog. Daeth yn eiddo'r Rheilffordd Ffestiniog (cyfnewidiwyd am dair wagen) ym 1926. Cyn cyfnewid, cafodd y rhif 24. Ailddechreuodd gwaith i'r Rheilffordd Ffestiniog ym 1955 a chafodd ddrysau llawn ym 1966. Atgyweiriwyd yn 2002 a dychwelodd i Reilffordd Eryri. | |
24 | 2002 | Gweithdy Boston Lodge | 7 adran | 42 | Copi o Gerbyd Haf 1894 "Ashbury" o'r Rheilffordd Cledrau Cul Gogledd Cymru | |
116 | 1972 | Edmund Crow a Boston Lodge. | 3 salŵn amgenach | 36 | Cyrhaeddodd tymor 2011. | |
122 | 2001 | Gweithdy Boston Lodge | 3 salŵn | 36 | Cyrhaeddodd tymor 2011. | |
1001 | 1957 | D. Wickham a Chwmni Cyf. | Cerbyd gwaith/Men fracio | Gynt o Reilffordd Chattenden ac Upnor. Prynwyd o Reilfordd South Tynedale a newid o 2 droedfedd 6 modfedd. . | ||
2010 | 2007/8 | Gweithdy Boston Lodge | Cegin/toiled/gard | 0 | Tebyg i 124 ar Reilffordd Ffestiniog Railway. Aeth i Ddinas yn 2008. | |
2011 | 1997/2011 | Winson Engineering/Gweithdy Boston Lodge | Cegin/toiled/gard | 0 | Tebyg i 2010. Y cerbyd cyntaf ag adeiladwyd i'r gwasanaeth o Gaernarfon. Cyrhaeddodd Boston Lodge ar gyfer profion ar Reilffordd Ffestiniog a throsglwyddwyd i Ddinas ym Medi 1997 fel salŵn hanner-agored 2020. Newidiwyd i'w ffurf presennol oherwydd angen un arall tebyg i 2010. | |
2021 | 2002 | Alan Keef | Salŵn hanner-agored | 36 | ||
2022 | 2002 | Alan Keef | Salŵn hanner-agored | 36 | ||
2040 | 1997 | Winson Engineering | Salŵn | 36 | Cerbyd clustogog, gwresogwyd a ffenestri dwbl. Cyrhaeddodd Ddinas ar gyfer dechreuad y gwasanaeth o Gaernarfon. | |
2041 | 1997 | Winson Engineering | Salŵn | 36 | Cerbyd clustogog, gwresogwyd a ffenestri dwbl. Cyrhaeddodd Ddinas ar gyfer dechreuad y gwasanaeth o Gaernarfon. | |
2042 | 1997 | Winson Engineering | Salŵn | 36 | Cerbyd clustogog, gwresogwyd a ffenestri dwbl. Cyrhaeddodd Ddinas ar gyfer dechreuad y gwasanaeth o Gaernarfon. | |
2043 | 2007 | Gweithdy Boston Lodge | Salŵn | 36 | Datblygiad o gerbydau 1997 Winson Engineering, yn gynnwyd drysau lletach ar gyfer teithwyr anabl. | |
2044 | 2007 | Gweithdy Boston Lodge | Salŵn | 36 | Datblygiad o gerbydau 1997 Winson Engineering, yn gynnwyd drysau lletach ar gyfer teithwyr anabl. | |
2045 | 2007 | Gweithdy Boston Lodge | Salŵn | 36 | Datblygiad o gerbydau 1997 Winson Engineering, yn gynnwyd drysau lletach ar gyfer teithwyr anabl. | |
2060 | 2007/2008 (Ailadeiladwyd) | Cwmni o Rwmania a gweithdy Boston Lodge | Salŵn | Cyflenwyd, yn llawn allanol efo bogiau dwy droedfedd, i weithdy Boston Lodge, lle cyflawnwyd yn mewnol yn salŵn trydydd dosbardd. | ||
2090 | 1997 | Winson Engineering | Gard/ Salŵn | 22 | Cerbyd clustogog, gwresogwyd a ffenestri dwbl efo drysau dwbl ar gyfer cadeiriau olwyn. Noddwyd gan First Hydro a chyflenwyd i Ddinas ym Medi 1997 ar gyfer dechreuad y gwasanaeth o Gaernarfon. | |
2100 | 2008/2009 | Gweithdy Boston Lodge. | Salŵn Gwylio 'Pullman' | |||
2115 | 1998 | Winson Engineering | Salŵn 'Pullman' | 20 | Gwresogwyd ac efo ffenestri dwbl, a chadeiriau breichiau o ddull 'Pullman'. Peintiwyd yn lyfrai Cwmni 'Pullman'. Noddwyd yn wreiddiol gan Historic Houses Hotels Cyf, perchnogion Neuadd Bodysgallen, ac felly enwyd y cerbyd "Bodysgallen". | |
|cyhoeddwr=
ignored (help)|cyhoeddwr=
ignored (help)|cyhoeddwr=
ignored (help)Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.