Crewe
Tref yn Swydd Gaer, Lloegr From Wikipedia, the free encyclopedia
Tref yn Swydd Gaer, Lloegr From Wikipedia, the free encyclopedia
Tref, plwyf sifil a chyffordd rheilffordd bwysig yn sir seremonïol Swydd Gaer, Gogledd-orllewin Lloegr, yw Crewe[1] (Cymraeg: Cryw). Mae cryw yn enw ar gored neu argae bychan ar draws afon a godwyd i ddal pysgod.[2]
Math | railway town, tref, plwyf sifil |
---|---|
Ardal weinyddol | Dwyrain Swydd Gaer |
Poblogaeth | 73,241, 55,315 |
Gefeilldref/i | Mâcon |
Daearyddiaeth | |
Sir | Swydd Gaer (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Yn ffinio gyda | Weston, Crewe Green, Haslington, Warmingham, Moston, Basford, Wistaston, Woolstanwood, Leighton |
Cyfesurynnau | 53.099°N 2.44°W |
Cod SYG | E04012281 |
Cod OS | SJ705557 |
Cod post | CW1 |
Tref ydyw a ffurfiwyd yn bennaf oherwydd y gweithfeydd mawr ar gyfer adeiladu a thrwsio a godwyd yno yn ystod canrif gyntaf y rheilffyrdd. Fel cyffordd bwysig (efallai y man cyfnewid trenau a gaiff y mwyaf o ddefnydd trwy Brydain), daeth Gorsaf reilffordd Cryw yn gyfarwydd i genedlaethau o deithwyr o Ogledd Cymru.
Fe'i lleolir yn awdurdod unedol Dwyrain Swydd Gaer. Crewe yw terminws/man gychwyn Rheilffordd Arfordir Gogledd Cymru sy'n ei chysylltu â Chaergybi.
Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y plwyf sifil boblogaeth o 52,673.[3]
Mae Caerdydd 186.4 km i ffwrdd o Crewe ac mae Llundain yn 237 km. Y ddinas agosaf ydy Stoke-on-Trent sy'n 18.7 km i ffwrdd.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.