afon yng Ngwynedd From Wikipedia, the free encyclopedia
Afon yn ardal Eifionydd, Gwynedd, yw Afon Tâl. Mae'n llifo yng nghymuned Llanaelhaearn i gyrraedd y môr ar draeth Trefor. Ei hyd yw tua 3.5 milltir.
Mae tarddle Afon Tâl yn gorwedd ger y blwch rhwng Moel Penllechog a'r Gyrn Ddu (hefyd Gurn Ddu), tua milltir i'r gogledd-ddwyrain o bentref Llanaelhaearn.[1]
Mae'n llifo i gyfeiriad y gorllewin i gyrion Llanaelhaearn lle mae'n troi i gyfeiriad y gogledd. Ger fferm yr Hendre Fawr mae'n mynd dan bont ar y briffordd A499 ac wedyn yn troi i gyfeiriad y gogledd-orllewin i lifo i lawr y cwm i bentref Trefor.[1] Ar ei ffordd drwy Drefor ceir rhes o dai chwarelwyr ar ei glan, sef Stryd yr Eifl, a ddaeth yn gyfarwydd i wylwyr S4C fel lleoliad dychmygol y gyfres ddrama sebon Minafon.
Ar ôl mynd trwy'r pentref ei hun mae'r afon yn cyrraedd y traeth carregog ger pier Trefor ac yn llifo i Fae Caernarfon wrth droed llethrau'r Eifl.[1]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.