Yr Eifl

bryn (560.7m) yng Ngwynedd From Wikipedia, the free encyclopedia

Yr Eifl

Mynyddoedd ar arfordir gogleddol Llŷn, uwchben pentrefi Llanaelhaearn a Threfor, yw Yr Eifl, ffurf lluosog o'r gair "gafl", sy'n golygu "pîg" neu "fforch". Llygriad o'r enw Cymraeg gwreiddiol yw'r enw Saesneg arno, The Rivals. Mae'r olygfa o ben yr Eifl yn fendigedig gan fod y mynydd yn uwch nag unman arall yn Llŷn. Mae'n sefyll allan o bell hefyd ac yn arbennig o drawiadol o lannau de-orllewinol Ynys Môn, e.e. o Ynys Llanddwyn; cyfeiriad grid SH364447. Uchder cymharol, neu ”amlygrwydd” y copa, ydy 131 metr: dyma'r uchder mae'r copa'n codi uwchlaw'r mynydd agosaf.

Ffeithiau sydyn Math, Daearyddiaeth ...
Yr Eifl
Thumb
Mathcopa, bryn 
Daearyddiaeth
SirGwynedd 
Gwlad Cymru
Uwch y môr561 metr 
Cyfesurynnau52.9746°N 4.4379°W 
Cod OSSH3649544747 
Manylion
Amlygrwydd429 metr 
Rhiant gopaMoel Hebog 
Thumb
Statws treftadaethSafle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig 
Manylion
Cau

Disgrifiad

Mae gan y mynydd dri chopa. Mae'r uchaf yn y canol (564m) â hen garnedd arno, y lleiaf i'r gogledd (444m), yntau gyda charnedd arno, dros Fwlch yr Eifl ac uwchben y môr, a'r trydydd (485m) i'r de-ddwyrain uwchben pentref hanesyddol Llanaelhaearn. Coronir yr olaf â bryngaer hynafol nodedig iawn a elwir Tre'r Ceiri, sydd un o'r bryngaerau cynhanesyddol gorau yn Ewrop.

Dan gysgod Graig Ddu ar ei lethrau gorllewinol mae'r hen bentref chwarel Nant Gwrtheyrn, sydd ers blynyddoedd bellach yn ganolfan iaith genedlaethol. Ceir chwarel arall ar lethrau gogleddol y copa isaf, sef Chwarel Trefor. Gwenithfaen yw'r garreg.

O gwmpas y mynydd, o'r gogledd i'r gorllewin, ceir pentrefi Trefor, Llanaelhaearn a Llithfaen.

Y copa

Dosberthir copaon Cymru, a gweddill gwledydd Prydain, yn rhestri arbennig yn ôl uchder ac yn ôl amlygrwydd y copa; mae'r copa hwn yn cael ei alw'n Marilyn (mynydd) a Dewey. Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwiro a chasglu'r rhestri hyn a dônt ynghyd ar wefan “Database of British and Irish hills”.[1] Uchder y copa o lefel y môr ydy 564m (1850tr). Cafodd yr uchder ei fesur a'i gadarnhau ddiwethaf ar 28 Hydref 2001.

Llyfryddiaeth

  • Ioan Mai Evans, Gwlad Llŷn (Llandybïe, 1968)

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

Dolenni allanol

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.