From Wikipedia, the free encyclopedia
Roedd Edward John (E.J.) Hughes (18 Mehefin 1888 – 17 Medi 1967) yn gerddor, organydd a chyfansoddwr o Gymru.
Ganwyd Edward John Hughes (EJH) ar 18 Mehefin 1888 yn fab i William John Hughes a Mary Ann Martin, Shop Goch, Trefor. EJH oedd yr hynaf o bump o blant, tri bachgen a dwy ferch. Roedd eu tad yn frodor o Lanaelhaearn, a'u mam yn hanu o Bitterley, ger Llwydlo. Symudodd y teulu yn ddiweddarach i Manchester House, lle y bu chwaer EJH, Annie Griffith, yn cadw siop 'sgidiau tan y 1980au.
Roedd yr Hughesiaid yn weithgar yn eu cymuned a hefyd yn deulu cerddorol. Crydd oedd William John Hughes (WJH), tad EJH, o ran galwedigaeth, ond yr oedd yn astudio cerddoriaeth yn ei amser rhydd. Yn 1875, ac yntau'n 20 oed, yn dilyn cyngerdd yn Rhoshirwaun i godi arian i'w gynorthwyo, treuliodd WJH dymor yn Aberystwyth yn astudio cerddoriaeth gyda Dr Joseph Parry.[1] Yn ei dro daeth WJH yn gyfansoddwr ac yn organydd medrus, yn chwarae'r organ yn 1900 ar achlysur agor capel newydd Bethania yn Nhrefor, lle y bu'n organydd am nifer o flynyddoedd. Roedd gwreiddiau cerddorol EJH, felly, yn gadarn, ac ymddiddorai yntau, fel ei dad, mewn cerddoriaeth ers yn ifanc.
Wedi gadael yr ysgol yn 16 oed, dechreuodd EJH weithio fel gwneuthurwr setiau yn chwarel wenithfaen Trefor. Yn ei oriau hamdden byddai'n astudio cerddoriaeth, a bob bore, cyn cychwyn i fyny'r mynydd i'r chwarel, byddai'n ymarfer am awr ar biano efo pedalau arbennig, fel rhai organ, arni. Mae sôn amdano'n rhwymo cadachau am ei ddwylo wrth gerdded i'r gwaith er mwyn gwarchod ei fysedd wrth iddo weithio. Yn yr un flwyddyn ag y dechreuodd weithio yn y chwarel, bu'n llwyddiannus mewn arholiadau sol-ffa ac, yn ôl Yr Herald Gymraeg,[2] roedd o hefyd yn dysgu plant iau. Ym 1904 hefyd cafodd ei ethol yn ysgrifennydd Undeb y Bedyddwyr yn lleol am y flwyddyn ganlynol, ac yn ddiweddarach, ymunodd â'i dad i ddod yn gyfeilydd yng nghapel Bethania, Trefor.
Yn ôl pob tebyg roedd ei fryd ar fod yn organydd, ond nid oedd organ yn yr ardal iddo fedru ymarfer. Yn ffodus, cafodd ei dderbyn i gael gwersi bob pythefnos gyda Dr Roland Rogers, organydd cadeirlan Bangor. Cymerai'r daith o ryw 22 milltir bob ffordd drwy'r dydd bryd hynny - o wyth y bore tan hanner nos: siwrne ceffyl a throl i Gaernarfon - efo tarpolin dros y teithwyr ar ddiwrnod gwlyb - ac ymlaen wedyn efo trên i Fangor. Ym mis Ebrill 1910 enillodd ddiploma ALCM[3] a dechreuodd roi gwersi piano gan deithio o gwmpas yr ardal ar feic, ac yna ar feic modur. Cyn dechrau’r Rhyfel Mawr yn 1914 roedd mewn sefyllfa i adael y chwarel a chanolbwyntio ar ei waith fel athro cerdd peripatetig.[4]
Rhwng 1916 a 1918 roedd yn y fyddin yn Llundain, yn gweithio yn y Swyddfa Cyflogau (Pay Office) a hefyd yn chwarae'r piano i rai o'r swyddogion. Mae ei bapurau listio yn dangos ei fod yn fyddar yn ei glust chwith a bod ganddo furmur ar y galon – dau o'r rhwystrau y bu'n rhaid iddo eu gorchfygu er mwyn dilyn gyrfa gerddorol. Mae sôn ei fod wedi cael llythyr oddi wrth organydd Westminster Hall yn gofidio nad oedd wedi dychwelyd ffurflen gais am swydd organydd cynorthwyol. Wedi'r rhyfel, dychwelodd i Drefor gan barhau i roi gwersi peripatetig, a gyda grant gan y llywodraeth ailgydiodd yn y gwersi gyda Dr Rogers ym Mangor.[5]
Yn 1921 enillodd ddiploma Aelod cysylltiol Coleg Brenhinol yr Organyddion (ARCO) ac fe'i hapwyntiwyd yn organydd eglwys Seion Llanrwst yn 1923. Ym mis Ebrill 1924 priodwyd EJH a Margaret Williams, Pant y Ffynnon, Gyrn Goch, yng nghapel Brynaearau, Llanllyfni, ac ymgartrefodd y pâr priod yn Stryd Dinbych, Llanrwst. Yn ogystal â chwarae'r organ yng nghapel Seion byddai EJH yn rhoi gwersi piano yn yr ardal a hefyd yn dysgu cerddoriaeth yn Ysgol Ramadeg Llanrwst.
Parhaodd EJH i ddatblygu ei sgiliau cerddorol, dechreuodd wneud enw iddo'i hun fel cyfansoddwr, beirniad eisteddfodol ac arweinydd cymanfaol. Ym mis Ionawr 1936 enillodd Gymrodoriaeth Coleg Brenhinol yr Organyddion (FRCO) drwy arholiad. Cynhaliwyd yr arholiad, a ddisgrifiwyd gan yr Herald Gymraeg fel un "anodd anghyffredin"[6] ar ddydd Mercher ac fe gafodd EJH y newyddion da ei fod wedi bod yn llwyddiannus ar y bore Sadwrn. Ar fore Sul 5 Mehefin 1938 EJH oedd yr organydd a'r côr-feistr mewn gwasanaeth a ddarlledwyd gan y BBC o gapel Seion, Llanrwst.
Cyfansoddodd nifer o weithiau a wahanol fathau, gan gynnwys yr emyn-donau Martin, St Beuno ac Angel Lane, a darnau poblogaidd megis Y Blodyn Gwyn, Y Gwanwyn a Pistyll y Pentref.
Yn 1947 apwyntiwyd EJH yn organydd yng nghapel Engedi, Caernarfon, ac ymgartrefodd yn y dref gyda'i wraig. Bu yn Engedi tan 1958 ac yn ystod y cyfnod hwnnw roedd hefyd yn athro cerdd rhan-amser yn Ysgol Ramadeg Penygroes.
Amharwyd ar ei yrfa fel unawdydd organ a phiano gan broblem crebachu cyhyrau dau fys o'i ddwy law a gymerodd flynyddoedd maith i'w gywiro. Serch hynny, cyfeiliodd i sawl canwr enwog, megis Leila Megan, David Lloyd a Mary Jarred a'r feiolinydd Joseph Suk, ŵyr y cyfansoddwr o'r un enw a briododd ferch Dvorak. Bu'n arwain cymanfaoedd canu ym mhob cwr o Gymru a chymanfa Ganu Gogledd America yn Rochester (1953) a Philadelphia (1954).
Yn 1960, yn dilyn gwaedlyn yn ei ben, daeth yn hollol fyddar ac ymgartrefodd gyda'i fab ym Menllech, Ynys Môn. Er gwaethaf ei ddiffyg clyw, bu'n mynychu cyngherddau i weld arweinyddion a chantorion wrth eu gwaith, ac yn cyfansoddi emyn-donau hyd ddiwedd ei oes. Bu farw ym mis Medi 1967 ac fe'i claddwyd gyda'i wraig ym mynwent eglwys Beuno Sant, Clynnog Fawr.
Yn 2006 cyflwynwyd tlws er cof am EJH i Eisteddfod Dyffryn Conwy.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.