pentref a chymuned yng Ngwynedd From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentrefan, chymuned a phlwyf eglwysig yng Ngwynedd, Cymru, yw Llangelynnin[1][2] ( ynganiad ). Saif i'r gogledd o dref Tywyn, ger priffordd yr A493 ac uwchben y môr. Mae cymuned Llangelynnin hefyd yn cynnwys pentref Llwyngwril a phentref bychan Rhoslefain.
Math | cymuned, pentrefan |
---|---|
Poblogaeth | 639 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.6433°N 4.1123°W |
Cod SYG | W04000080 |
Cod OS | SH570071 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Liz Saville Roberts (Plaid Cymru) |
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)[3] ac yn Senedd y DU gan Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[4]
Prin y gellir galw Llangelynnin yn bentrefan o gwbl, gan mai dim ond llond dwrn o adeiladau gwasgaredig ydyw; ei ganolbwynt yw Eglwys Sant Celynnin, sy'n dyddio o'r 13g. Yn y fynwent, mae bedd Abram Wood, sylfaenydd tylwydd enwocaf y Sipsiwn Cymreig. Mae lein Rheilffordd y Cambrian gerllaw. Mae'r eglwys ar ochr y mynydd, nid nepell o'r môr.
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[5][6][7]
Cyfrifiad 2011 | ||||
---|---|---|---|---|
Poblogaeth cymuned Llangelynnin (Meirionnydd) (pob oed) (673) | 100% | |||
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llangelynnin (Meirionnydd)) (273) | 41.2% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 19% | |||
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llangelynnin (Meirionnydd)) (281) | 41.8% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 73% | |||
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Llangelynnin (Meirionnydd)) (133) | 43.9% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 67.1% |
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.