pentref a chymuned yng Ngwynedd From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref a chymuned yng Ngwynedd, Cymru, yw Y Ganllwyd[1] neu Ganllwyd.[2] Saif mewn dyffryn ar yr A470 ger Dolgellau. Yno mae'r Afon Gamlan yn ymuno gyda'r Afon Mawddach. Mae'n gymuned hefyd.
Math | cymuned, pentref |
---|---|
Poblogaeth | 179, 164 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 4,483 ha |
Cyfesurynnau | 52.8019°N 3.8889°W |
Cod SYG | W04000064 |
Cod OS | SH726244 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Liz Saville Roberts (Plaid Cymru) |
Mae olion y diwydiant aur i'w gweld yno tu ôl i'r neuadd pentref. Y mwyngoddfa fwyaf oedd Ffridd Goch a'r chyfadeiladau yng Nghefn Coed. Cynhyrchwyd 80 owns o aur o’r safleoedd hyn rhwng 1896 a 1902. Y tro diwethaf y mwyngloddwyd yn yr ardal oedd rhwng 1919 ac 1922. Roedd hefyd mwynfa fechan Tyddyn Gwladys o tua 1830, a'i weithwyd yn ysbeidiol i gynhyrchu plwm ac aur. Cloddiwyd 43 tunell o fwyn aur, gan gynhyrchu 7 owns o aur yn ei blwyddyn olaf yn 1899.[3]
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6]
Cyfrifiad 2011 | ||||
---|---|---|---|---|
Poblogaeth cymuned Ganllwyd (pob oed) (179) | 100% | |||
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Ganllwyd) (107) | 62.2% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 19% | |||
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Ganllwyd) (110) | 61.5% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 73% | |||
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Ganllwyd) (19) | 27.5% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 67.1% |
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.