pentref yng Ngwynedd From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref yng nghymuned Llandygái, Gwynedd, Cymru, yw Tre-garth[1] neu Tregarth[2] ( ynganiad ). Fe'i lleolir rhwng Bethesda a dinas Bangor gerllaw Afon Ogwen. Saif Chwarel y Penrhyn rhwng Tregarth a Bethesda, a thyfodd y pentref yn bennaf fel trigfan i'r chwarelwyr. O'r boblogaeth o tua 1,000, mae o gwmpas 70% yn siarad Cymraeg.
Math | pentref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.18°N 4.1°W |
Cod OS | SH603678 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Siân Gwenllian (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Claire Hughes (Llafur) |
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Siân Gwenllian (Plaid Cymru)[3] ac yn Senedd y DU gan Claire Hughes (Llafur).[4]
Yn ystod y streic fawr yn Chwarel y Penrhyn, dychwelodd rhai o'r gweithwyr i'r chwarel yn ystod y streic, ac ystyrid hwy yn "Fradwyr" gan y gweddill. Symudodd nifer o'r rhain o Fethesda i Dregarth, lle'r adeiladwyd tai ar eu cyfer gan Arglwydd Penrhyn. Gelwid un stryd yn Nhregarth yn "Stryd y Gynffon" am flynyddoedd wedyn.
Ar un adeg yr oedd dwy reilffordd yn rhedeg trwy'r pentref, sef cangen oedd yn rhedeg i Fethesda o'r brif lein LNWR, a gaewyd yn 1963, a Rheilffordd Chwarel y Penrhyn oedd yn cael ei defnyddio i gario llechi i Porth Penrhyn i'w hallforio, ac a gaewyd yn 1962. Agorwyd darn o drac yr hen reilffordd fel Lôn Las Ogwen.
Ymhith enwogion sy'n enedigol o Dregarth a'r cyffiniau mae:
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.