pentref yng Ngwynedd, Cymru From Wikipedia, the free encyclopedia
Hen bentref chwarel yw Tanygrisiau ( ynganiad ) (weithiau Tan-y-grisiau), ger Blaenau Ffestiniog yng Ngwynedd.
Codwyd y pentref ar gyfer y chwarelwyr a weithiai yn chwareli'r Moelwynion, uwchlaw'r pentref i'r gogledd.
Yn agos i Danygrisiau mae argae Llyn Stwlan, rhwng Moelwyn Mawr a Moelwyn Bach, â'i phwerdy trydan dŵr. Mae ffordd o'r pentref yn dringo i fyny iddo a cheir canolfan ymwelwyr yno.
Mae Rheilffordd Ffestiniog, sy'n cysylltu Blaenau Ffestiniog â Phorthmadog, yn mynd trwy'r pentref ac yn atyniad twristaidd pwysig yn yr haf.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.