bardd, sosialydd a diwygiwr cymdeithasol Cymreig (1871–1930) From Wikipedia, the free encyclopedia
Bardd, sosialydd a diwygiwr cymdeithasol o Gymru oedd Robert "Silyn" Roberts (28 Mawrth 1871 – 15 Awst 1930), a aned ger Llanllyfni yn yr hen Sir Gaernarfon..
R. Silyn Roberts | |
---|---|
Ffugenw | Silyn Roberts |
Ganwyd | 28 Mawrth 1871 Llanllyfni |
Bu farw | 13 Awst 1930 Bangor |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | bardd |
Perthnasau | Mathonwy Hughes |
llofnod | |
Ar ôl cyfnod o weithio fel chwarelwr aeth Silyn i astudio am ei radd yng Coleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor ac yna i astudio ar gyfer y weinidogaeth yng Ngholeg Diwinyddol Y Bala.
Pan oedd e'n byw yn Llundain yn y 1900au daeth Silyn yn gyfaill i Lenin.[1]
Treuliodd y cyfnod 1905 - 1912 yn weinidog yn Nhan-y-grisiau, ger Blaenau Ffestiniog.
Credai'n gryf mewn sosialaeth a chefnogai'r Blaid Lafur Annibynnol. Sefydlodd gangen Gogledd Cymru o Gymdeithas Addysg y Gweithwyr yn 1925.
Bu'n weithgar hefyd gyda Cylch Dewi - cymdeithas yn ymgyrchu dros defnydd o'r Gymraeg ym myd addysg a chymdeithas a'r radio.
Gyda'i gyfaill W.J. Gruffydd, cymerodd ran flaenllaw yn y farddoniaeth delynegol newydd ar ddechrau'r 20g. Uchafbwynt eu cydweithrediad oedd cyhoeddi'r gyfrol Telynegion ar y cyd yn 1900. Enillodd Silyn y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bangor 1902.
Fel yn achos W.J. Gruffydd, nodweddir barddoniaeth Silyn gan ei delfrydiaeth a'i rhamantiaeth delynegol.
Priododd Mary Parry.[2]
Mae gan Wicidestun destun sy'n berthnasol i'r erthygl hon: |
Ceir bywgraffiad iddo gan David Thomas (1956).
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.