pentref yng Ngwynedd From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref bychan yn Eifionydd, Gwynedd, yw Penmorfa ( ynganiad ) . Mae'n gorwedd tua milltir i'r gorllewin o Dremadog ar bwys yr A487.
Math | pentref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.943089°N 4.162283°W |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru) |
AS/au | Liz Saville Roberts (Plaid Cymru) |
Fe'i gelwir yn Benmorfa am ei fod yn gorwedd ar ben gorllewinol morfa Tremadog, sy'n rhan o'r Traeth Mawr; buasai'r tir hwn yn wlypach o lawer cyn i William Madocks godi morglawdd dros geg y Traeth Mawr.
Cofrestwryd Eglwys Sant Beuno, Penmorfa yn adeilad Gradd II* gan Cadw. Mae wedi cau ers rhai blynyddoedd.
Ar ochr arall yr Alltwen i'r gogledd o'r pentref ceir hen blasdy'r Gesail Gyfarch gyda phlasdy'r Clenennau yn ei wynebu dros y cwm. Ar wahân i'r A487, mae lonydd bychain dros y morfa yn cysylltu'r pentref â Pentrefelin a Cricieth i'r de-orllewin a Penamser a Phorthmadog i'r de-ddwyrain.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)[1] ac yn Senedd y DU gan Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[2]
Prin y gallwn ddirnad ôl y llythrennau ar y graig ond hen arwydd i Benmorfa ydi hwn wedi ei osod rhyw oes cyn codi morglawdd Maddocks ddechrau’r 19g. Y pryd hwnnw roedd siroedd Meirionnydd a Chaernarfon wedi eu gwahanu i bob pwrpas gan ucheldir a chan morfa anferth aber y Glaslyn, sef y Traeth Mawr. Am le godidog fyddai’r aber hwnnw cyn ei ddifetha fel cynefin naturiol gan gob Maddocks, a’r ffordd newydd. Meddyliwch gorfod mynd ar hyd yr hen ffordd o Faentwrog i Benmorfa trwy Rhyd, Llanfrothen, Aberglaslyn, Prenteg. Mae'r arwydd o garreg i’w weld heddiw yn y wal ar ymyl y ffordd rhwng y fynedfa i orsaf Tan y Bwlch a Llyn Mair.[3]
Rhan isaf pentre Penmorfa yw Pwllgoleulas ar lannau’r hen Draeth Mawr. Gall yr enw gyfeirio at y cannwyll corff (‘’Will-o’-the-wisp’’). Dyma breswylydd o’r pentref Tom Jones yn 2012:
Yn ôl Archif Melville Richards o Enwau Lleoedd, mae'r lle yn cael ei gydnabod fel 'Pwll Gloyw Lâs' ar ddogfennau trethiant tir yn 1769. Ar y Mapiau Degwm ymddengys fel Pwll Gloewlas. Felly hefyd ar fapiau diwedd y 1800au. Yng nghyfrol Alltud Eifion, 'Gestiana' nodir 'Pwllgloyw Glas. Mae'r cyfuniad o 'Pwll + Gloyw + Glas' felly yn fwy tebygol o fod wir nag elfen o dybio mai 'Pwll+Golau+Glas' yw'r tarddiad.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.