pentref yng Ngwynedd From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref gwledig yn Arfon, Gwynedd, yw Nebo ( ynganiad ). Saif milltir a hanner i'r de-ddwyrain o Lanllyfni, ger Pen-y-groes, a thua milltir i'r dwyrain o briffordd yr A487 rhwng Caernarfon a Chricieth.
Y pentref agosaf yw Nasareth. Mae'r hen lôn o Lanllyfni yn rhedeg heibio i waelod Nebo ar ei ffordd i Garn Dolbenmaen. Ardal o hen dyddynoedd bychain ydyw yn bennaf, ar wasgar yn eu caeau ar y llethrau. Enwir Nebo ar ôl y capel lleol, un o sawl rhai yng Nghymru a enwyd ar ôl Mynydd Nebo yn yr Hen Destament.
Mae lôn yn arwain i fyny o Nebo i Lyn Cwmdulyn dan greigiau syrth Mynydd Graig Goch. Mae'r afonig sy'n rhedeg o'r llyn yn mynd heibio i'r pentref ar ei gwr gogleddol i ymuno yn Afon Crychddwr sy'n llifo wedyn i Afon Llyfni.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Siân Gwenllian (Plaid Cymru)[1] ac yn Senedd y DU gan Hywel Williams (Plaid Cymru).[2]
Ceir ysgol gynradd gyfrwng Cymraeg yng nghanol y pentref, sef Ysgol Nebo, sy'n rhan o dalgylch Ysgol Dyffryn Nantlle.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.