pentref gwledig a chymuned yn nwyrain Gwynedd From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref gwledig a chymuned yng Ngwynedd, Cymru, yw Llandderfel[1][2] ( ynganiad ). Saif yn nwyrain y sir tua 3 milltir i'r dwyrain o'r Bala. Mae plwyf Llandderfel yn un o bump plwyf Penllyn. Mae'n gorwedd yn rhan uchaf Dyffryn Edeirnion yn agos i'r Sarnau a Chefnddwysarn, wrth odre'r Berwyn.
Math | cymuned, pentref |
---|---|
Poblogaeth | 1,086 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.922°N 3.516°W |
Cod SYG | W04000071 |
Cod OS | SH980371 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Liz Saville Roberts (Plaid Cymru) |
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)[3] ac yn Senedd y DU gan Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[4]
Mae eglwys Llandderfel yn hen ac wedi'i chysegru i Sant Derfel Gadarn (fl. 6g efallai). Ceir yma ffenest liw nodedig iawn gan James Powell a'i fab, sy'n dyddio i 1890.[5] Yn y porth gwelir ceffyl pren derw hynafol. Ar un adeg roedd y sant yn marchogaeth y ceffyl ond yn ystod y Diwygiad Protestannaidd cymerwyd delw'r sant a'i ffon a'u cludo i Lundain lle cawsent eu defnyddio i losgi offeiriad Catholig ar y Bryngwyn ar orchymyn Thomas Cromwell. Yn rhyfedd iawn roedd hyn yn cyflawni hen broffwydoliaeth y byddai'r ddelw ryw ddydd yn llosgi coedwig gyfan: enw'r offeiriad druan oedd 'Mr Forest'.
Roedd yn arfer gan y plwyfolion orymdeithio gyda'r sant ar ei geffyl pren i fyny i ben allt leol a elwir Bryn y Saint. Credid fod y ddelw'n gallu iachau'r claf. Ceir Ffynnon Dderfel ger yr eglwys.
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[6][7][8]
Cyfrifiad 2011 | ||||
---|---|---|---|---|
Poblogaeth cymuned Llandderfel (pob oed) (1,095) | 100% | |||
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llandderfel) (708) | 67.1% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 19% | |||
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llandderfel) (727) | 66.4% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 73% | |||
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Llandderfel) (131) | 30% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 67.1% |
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.