Tref fechan a chymuned yn ardal Meirionnydd, Gwynedd, yw'r Bala. Cyfeirnod OS: SH 92515 36708. Does dim ond un stryd fawr yn y dref. Mae'r dref ar yr A494, rhwng Dolgellau (18 milltir i'r de-orllewin) a Llangollen (22 milltir i'r dwyrain). Cyn ad-drefnu llywodraeth leol roedd hi yn yr hen Sir Feirionnydd. Mae ganddi boblogaeth o 1,999 (2021),[1] 1,974 (2011),[2] 1,993 (2021)[3].

Ffeithiau sydyn Math, Poblogaeth ...
y Bala
Thumb
Mathtref, cymuned 
Poblogaeth1,999, 1,974, 1,993 
Daearyddiaeth
Ardal warchodolParc Cenedlaethol Eryri 
SirGwynedd 
Gwlad Cymru
Arwynebedd241.94 ha 
Yn ffinio gydaLlanuwchllyn 
Cyfesurynnau52.911°N 3.596°W 
Cod SYGW04000045 
Cod OSSH925359 
Cod postLL23 
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruMabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)
AS/au y DULiz Saville Roberts (Plaid Cymru)
Thumb
Cau
Gweler hefyd Bala (gwahaniaethu) am lefydd eraill o'r enw Bala.

Llyn naturiol mwyaf Cymru ydyw Llyn Tegid sydd ar gyrion y dref. Mae Afon Tryweryn yn llifo heibio i'r dwyrain ac yn ymuno ag Afon Dyfrdwy sy'n llifo drwy Lyn Tegid ac yn dod allan ar ochr ddeheuol y Bala.

Cynhaliyd gŵyl gerddoriaeth boblogaidd, "Wa Bala" ar gyrion y dref ym Mis Medi 2017.

Tarddiad yr enw

Gair cyffredin Cymraeg yn golygu adwy neu fwlch oedd "bala" gynt,[4] a ddaeth i olygu'r fan lle bydd afon yn llifo allan o lyn.[5] Yn yr achos hon cyfeiria enw'r dref yn benodol at y fan lle rhed Afon Dyfrdwy o Lyn Tegid. Ymddengys yr elfen "bala" mewn enwau lleoedd eraill ar draws Cymru megis Baladeulyn. Yn unol ag enghreifftiau eraill o enw cyffredin a arferir yn enw lle, cafodd y fannod ei gosod o'i flaen i'w wneud yn benodol.[4]

Ceir dros ddeg lle drwy'r byd sydd wedi eu galw ar ôl y Bala, gan gynnwys: Bala Cynwyd ym Mhennsylvania a Bala, Ontario.

Hanes

Thumb
Capel Tegid y Bala, tua 1875.

Ar un adeg roedd y Bala yn ganolfan bwysig i'r diwydiant gwlân ond dirwynodd i ben yn y 19g. Yn y sgwâr yng nghanol y dref saif cerflun er cof am Tom Ellis (1859-1899), AS Meirionnydd ar ddiwedd y 19g, a aned yng Nghefnddwysarn nepell o'r Bala. Yno hefyd mae plac yn coffhau'r Parch. Thomas Charles o'r Bala, Methodist blaenllaw ac un o selogion y Gymdeithas Feiblau a symbylwyd gan daith Mary Jones yn droednoeth i'r Bala yr holl ffordd o Llanfihangel-y-Pennant yn 1800. Ym mhen gogleddol y dref gwelir y Green gyda cherrig yr Orsedd o Eisteddfod Genedlaethol 1967. Ger llaw y mae Tomen y Bala, sy'n fwnt a beli, Normanaidd efallai. O'r Bala daeth nifer o'r ymfudwyr a aethant i'r Wladfa ym Mhatagonia yn 1865.

Yr hinsawdd

Rhagor o wybodaeth Hinsawdd Bala 163m, 1971-2000, Mis ...
Hinsawdd Bala 163m, 1971-2000
Mis Ion Chw Maw Ebr Mai Meh Gor Aws Med Hyd Tac Rha Blwyddyn
Tymheredd uchaf (cyfartalog) °C (°F) 6.7
(44.1)
6.8
(44.2)
8.7
(47.7)
11.1
(52.0)
14.6
(58.3)
16.8
(62.2)
19.1
(66.4)
18.8
(65.8)
16.2
(61.2)
12.9
(55.2)
9.4
(48.9)
7.5
(45.5)
12.38
(54.29)
Tymheredd isaf (cyfartalog) °C (°F) 0.9
(33.6)
0.8
(33.4)
2.1
(35.8)
2.8
(37.0)
5.2
(41.4)
8.0
(46.4)
10.2
(50.4)
9.8
(49.6)
8.0
(46.4)
5.6
(42.1)
3.0
(37.4)
1.6
(34.9)
4.83
(40.70)
Source: YR.NO[6]
Cau

Cyfrifiad 2011

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[7][8][9]

Rhagor o wybodaeth Cyfrifiad 2011 ...
Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Y Bala, Gwynedd (pob oed) (1,974)
 
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Y Bala, Gwynedd) (1,482)
 
78.5%
:Y ganran drwy Gymru
 
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Y Bala, Gwynedd) (1515)
 
76.7%
:Y ganran drwy Gymru
 
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Y Bala, Gwynedd) (380)
 
40.6%
:Y ganran drwy Gymru
 
67.1%
Cau

Enwogion

Yr Eisteddfod Genedlaethol

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yn y Bala ym 1967, 1997 a 2009. Am wybodaeth bellach gweler:

Oriel

Gefeilldref

Mae pentref Bala yn nhalaith Ontario, Canada, yn efeilldref swyddogol i'r Bala.

Cyfeiriadau

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.