Pentref i'r gogledd o Abermaw, Gwynedd, ydy Tal-y-bont. Saif i'r gorllewin o'r ffordd A496 i'r de o Llanddwywe. Mae canol y pentref tua 400 medr i'r de o Afon Ysgethin, a 400 medr i'r dwyrain o arfordir Bae Ceredigion.
Math | pentref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Dyffryn Ardudwy |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.7717°N 4.096°W |
Cod OS | SH587214 |
Cod post | LL43 |
Gwleidyddiaeth | |
- Am leoedd eraill o'r un enw, gweler Tal-y-bont (gwahaniaethu).
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)[1] ac yn Senedd y DU gan Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[2]
Ceir yno orsaf Rheilffordd y Cambrian a sawl safle carafan, siop pentref, tafarn yr Ysgethin Inn a bwyty Tony's Restaurant. Cynhelir "Diwrnod Hwyl Dyffryn a Thal-y-bont" bob blwyddyn ar y Sul olaf o Orffennaf.[3]
Hanes
Bu llongddrylliad ar greigiau tanddwr peryglus Sarn Badrig ger Tal-y-bont tua 1702. Suddodd llong fasnach a oedd yn cludo llwyth o farmor o Carerra, yr Eidal. Roedd yn llong arfog, gyda 18 o brif ganonau, 8 canon haearn bwrw llai a 10 canon haearn gyr. Mae’r llong ddrylliedig wedi cael ei datgloddio yn rhannol gan ddatgelu ei chloch a nifer fawr o arteffactau morlywio a domestig.[4] Trowyd un lwmp o farmor yn gerflu i gofio'r digwyddiad a gellir ei weld ar y prom yn y Bermo.
Pobl nodedig o'r ardal
- R. Geraint Gruffydd, Athro Cymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth
Cyfeiriadau
Wikiwand in your browser!
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.