pentref a chymuned yng Ngwynedd From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref a chymuned yng Ngwynedd, Cymru, yw Llanbedr ( ynganiad ). Saif yn ardal Ardudwy ychydig i'r de o Harlech lle mae'r A496 i Abermaw yn croesi Afon Artro.
Math | cymuned, pentref |
---|---|
Poblogaeth | 533 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.8201°N 4.1014°W |
Cod SYG | W04000067 |
Cod OS | SH582268 |
Cod post | LL45 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Liz Saville Roberts (Plaid Cymru) |
Tyfodd y pentref yn wreiddiol oherwydd y diwydiant llechi, ac yn awr mae'n boblogaidd gydag ymwelwyr yn ystod yr haf. Mae nifer o henebion yn y cyffiniau, yn cynnwys meini hirion o Oes yr Efydd ac olion tai crwn. Rhwng y pentref a'r môr mae twyni tywod Morfa Dyffryn a Mochras sydd hefyd yn gyrchfan boblogaidd i ymwelwyr. Caewyd maes awyr y Llu Awyr Brenhinol ar Forfa Dyffryn yn 2005. Mae'r safle wedi'i glustnodi yn Ardal Fenter gan Lywodraeth Cymru. Bwriedir hedfan dronau ac efallai awyrennau i'r gofod o'r maes awyr yn y dyfodol agos. Mae gan y pentref orsaf ar Reilffordd y Cambrian.
Rhyw filltir i'r dwyrain o'r pentref mae Pentre Gwynfryn. Y capel yma oedd capel "Salem" yn y llun enwog gan Sydney Curnow Vosper o Siân Owen, Tynyfawnog. Gerllaw Mochras gellir gweld rîff danfor Sarn Badrig ar lanw isel.
Gefeilliwyd Llanbedr â Huchenfeld yn 2008 wedi nifer o flynyddoedd o gyfnewid rhwng yr ysgolion, eglwysi, cerddorion ac arweinwyr y cymunedau. Datblygwyd perthynas agos a sefydlwyd ewyllys da rhwng y cymunedau er cof am y digwyddiadau erchyll ym 1945 yn Pforzheim a Huchenfeld yn ystod yr Ail Ryfel Byd.[1]
“Gruffydd Dafydd oedd y gof [tua 1850] ac roedd yntau’n bersonoliaeth boblogaidd yn y pentref, yn ffraeth, yn siaradwr cyflym ac yn weithiwr dygn. Daeth ei efail yn fan cyfarfod i’r pentrefwyr. Roedd ganddo ddawn arbennig i doddi copr ac efydd, a phan ofynnwyd am y dull cyfrinachol, ei ateb bob amser oedd, “Mae arnoch angen lapis calamoniaris, machgen i!”[2]
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5]
Cyfrifiad 2011 | ||||
---|---|---|---|---|
Poblogaeth cymuned Llanbedr, Ardudwy (pob oed) (645) | 100% | |||
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llanbedr, Ardudwy) (338) | 55% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 19% | |||
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llanbedr, Ardudwy) (348) | 54% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 73% | |||
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Llanbedr, Ardudwy) (117) | 39.9% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 67.1% |
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.