tref yng Nghymru From Wikipedia, the free encyclopedia
Tref a chymuned ym Mhowys, Cymru, yw Talgarth.[1] Saif yn ardal Brycheiniog. Yma y cadwyd Llyfr Coch Talgarth, llawysgrif Gymraeg a ysgrifennwyd tua'r flwyddyn 1400.
Math | tref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 1,724, 1,701 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Powys |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 5,531 ha |
Cyfesurynnau | 51.993°N 3.232°W |
Cod SYG | W04000343 |
Cod OS | SO1533 |
Cod post | LD3 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | James Evans (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | David Chadwick (Democratiaid Rhyddfrydol) |
Mae Caerdydd 57 km i ffwrdd o Talgarth ac mae Llundain yn 222.1 km. Y ddinas agosaf ydy Henffordd sy'n 36.6 km i ffwrdd.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan James Evans (Ceidwadwyr)[2] ac yn Senedd y DU gan David Chadwick (Democratiaid Rhyddfrydol).[3]
O fewn ardal tua dwy filltir sgwâr ceir 16 siambr claddu o Oes Ganol y Cerrig (y mesolythig) a ystyrir yn nodedig iawn. Siambrau hirion yw'r rhan fwyaf, gyda cherrig anferthol yn eu gorchuddio fel nenfydau; mae eu cynlluniau mewnol yn hynod o gymhleth ac yn arwydd fod yma bobl soffistigedig iawn, amaethwyr cynnar gyda defodau claddu arbennig. Canfuwyd yr offeryn cerdd hynaf yng Nghymru ym Mhenywyrlod, Talgarth a ddyddiwyd i c. 4000 BC; darganfuwyd y siambr gan ffermwr lleol a'r offeryn cerdd ym Mehefin 1972 .
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[5][6][7]
Cyfrifiad 2011 | ||||
---|---|---|---|---|
Poblogaeth cymuned Talgarth (pob oed) (1,724) | 100% | |||
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Talgarth) (198) | 11.8% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 19% | |||
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Talgarth) (1069) | 62% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 73% | |||
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Talgarth) (238) | 32.3% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 5% |
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.