From Wikipedia, the free encyclopedia
Tref a chymuned yng nghanolbarth Powys, Cymru, yw Llanfair-ym-Muallt,[1] weithiau Buallt (Saesneg: Builth Wells neu Builth). Saif ar lannau Afon Gwy.
Math | tref farchnad |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Llanfair ym Muallt |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.14°N 3.41°W |
Cod OS | SO035505 |
Cod post | LD2 |
AS/au y DU | David Chadwick (Democratiaid Rhyddfrydol) |
Statws treftadaeth | Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Mae'n debyg mai sillafiad gwreiddiol Buallt oedd Buellt (am ei bod yn gorwedd yn y cantref canoloesol Buellt), sef bu a gwellt sef porfa gwartheg. Yr un bu sydd yn buwch, bustach a buarth ac roedd gwellt yn wreiddiol yn gallu golygu porfa fel ag yn glaswellt. Llurguniad ar y gair Buallt yw'r Saesneg Builth.
Tyfodd y dref o gwmpas y castell anferth a godwyd yno o tua diwedd y 1090au ymlaen. Gerllaw, ceir tomen mwnt a beili o'r enw Castell Buallt.
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[2][3][4][5]
Cyfrifiad 2011 | ||||
---|---|---|---|---|
Poblogaeth cymuned Llanfair-ym-Muallt (pob oed) (2,568) | 100% | |||
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llanfair-ym-Muallt) (385) | 15.6% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 19% | |||
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llanfair-ym-Muallt) (1502) | 58.5% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 73% | |||
Y nifer rhwng 16 – 64 oed sydd mewn gwaith (Llanfair-ym-Muallt) (353) | 31.6% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 67.1% |
Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yn Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt ym 1993. Am wybodaeth bellach gweler Eisteddfod Genedlaethol Cymru Llanelwedd 1993
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.