tref a chymuned ym Mhowys From Wikipedia, the free encyclopedia
Tref a chymuned ym Mhowys, Cymru, yw Llanidloes.[1] Cyfeirir y dref ar lafar, yn aml, fel Llani. Saif yn ardal Maldwyn ar lan Afon Hafren. Mae Caerdydd 110.4 km i ffwrdd o Lanidloes ac mae Llundain yn 257.4 km. Y ddinas agosaf ydy Henffordd sy'n 71.2 km i ffwrdd. Gorsaf reilffordd Caersws yw'r un agosaf, 6 milltir i ffwrdd. Crëwyd dau lwybr yn 2006, sef Sarn Sabrina 25 milltir o hyd) a Semi Sabrina (12 milltir), yn dechrau o Lanidloes.[2][3]
Math | tref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 2,798 |
Gefeilldref/i | Derwal |
Daearyddiaeth | |
Sir | Powys |
Gwlad | Cymru |
Gerllaw | Afon Hafren |
Cyfesurynnau | 52.449°N 3.5402°W |
Cod SYG | W04000315 |
Cod OS | SN954845 |
Cod post | SY18 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Russell George (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | Steve Witherden (Llafur) |
Statws treftadaeth | Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Russell George (Ceidwadwyr)[4] ac yn Senedd y DU gan Steve Witherden (Llafur).[5]
Yn ôl traddodiad, sefydlwyd llan ar safle Llanidloes gan Sant Idloes (fl. 6ed-7g).
Canodd y bardd canoloesol Gruffudd ab Adda ap Dafydd gywydd i'r fedwen a dorrwyd i wneud pawl haf yn Llanidloes. Mae'n un o'r cywyddau canoloesol mwyaf adnabyddus.[6] Mae'n cyferbynu harddwch ac urddasrwydd byd natur â hyllni ac anghyfiawnder y dref a phopeth a gynrychiolir ganddi, tref lle gosodwyd y fedwen ddifethiedig yn ymyl y pilori cyhoeddus.[7] Llanidloes oedd y pentref lle magwyd y merthyr Rhisiart Gwyn.[8]
Erbyn diwedd y 18g, Roedd y dref yr un bwysicaf ym Maldwyn ar rhan cynhyrchu gwlan a gwlanen, ond yn raddol, daeth Y Drenewydd yn bwysicach, a hefyd symudodd cynhyrchiad o dai i ffatrioedd.[9]. Agorwyd Cyfnewydfa Wlanan yn Llanidloes ym 1838, ond erbyn 1913 roedd y felin olaf wedi cau.
Roedd y dywidiant plwm yn bwysig i’r dref, oherwydd y pwllau Van gerllaw. Erbyn 1876 roeddent ymysg pyllau mwyaf cynhyrchiol y byd, yn rhoi gwaith i dros 500 o bobl. Sefydlwyd ffowndri yn y dref ym 1851, ac adeiladwyd nifer fawr o gapeli a siopau yn ystod y cyfnod.[10]
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[11][12][13]
Cyfrifiad 2011 | ||||
---|---|---|---|---|
Poblogaeth cymuned Llanidloes (pob oed) (2,929) | 100% | |||
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llanidloes) (439) | 15.5% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 19% | |||
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llanidloes) (1825) | 62.3% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 73% | |||
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Llanidloes) (556) | 39.3% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 5% |
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.