From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref a chymuned ym Mhowys, Cymru, yw Nantmel.[1][2] Saif y pentref ar briffordd yr A44 ychydig i'r de-ddwyrain o dref Rhaeadr Gwy. Heblaw pentref Nantmel ei hun, mae'r gymuned yn cynnwys pentref Nant Glas.
Math | pentref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 637, 658 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Powys |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 5,598.32 ha |
Cyfesurynnau | 52.3°N 3.4°W |
Cod SYG | W04000333 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | James Evans (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | David Chadwick (Democratiaid Rhyddfrydol) |
Roedd James Watt, dyfeisydd y peiriant ager, yn byw yn Noldowlod gerllaw, ac mae ei ddisgynyddion yno o hyd. Hefyd yn y gymuned yma mae fferm Gigryn, lle mae bwydo'r Barcud coch yn atyniad adnabyddus.
Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 686.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan James Evans (Ceidwadwyr)[3] ac yn Senedd y DU gan David Chadwick (Democratiaid Rhyddfrydol).[4]
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[5][6][7]
Cyfrifiad 2011 | ||||
---|---|---|---|---|
Poblogaeth cymuned Nantmel (pob oed) (637) | 100% | |||
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Nantmel) (73) | 11.8% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 19% | |||
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Nantmel) (281) | 44.1% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 73% | |||
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Nantmel) (97) | 34.8% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 67.1% |
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.